Uned 2: Arwyddion Iechyd ac Afiechyd mewn Anifeiliaid Fferm

Mae gan holl ffermwyr da byw ddyletswydd gyfreithiol a moesol i ofalu am eu hanifeiliaid. Mae'r gallu i ofalu'n iawn am eich anifeiliaid yn dod drwy wybodaeth. Rhaid i'r ffermwr wybod am holl agweddau gofal iechyd priodol, a bod yn ymwybodol o anghenion lles yr anifeiliaid.

Mae'r sesiwn hon yn delio ag arwyddion iechyd ac afiechyd mewn anifeiliaid fferm. Mae hefyd yn edrych ar y dasg ymarferol o fesur tymheredd fel ffordd ddiagnostig. Ar ddiwedd y sesiwn hon byddwch chi yn gallu:

  • Diffinio beth yw ffermio anifeiliaid yn dda
  • Dweud beth yw arwyddion iechyd ac afiechyd mewn llo
  • Dweud beth yw arwyddion iechyd ac afiechyd mewn dafad
  • Egluro pwysigrwydd mesur tymheredd fel ffordd ddiagnostig

notes interactive

Gweithgaredd Myfyriwr

interactive

Fideo

Yn ôl i'r dechrau