Mae'r sesiwn hon yn delio â brechlyn geneuol. Bydd yn cwmpasu techneg brechu a llyngyr yr ysgyfaint mewn gwartheg.
Mae llyngyr yr ysgyfaint yn cael ei reoli'n effeithiol â brechlyn byw sy'n cael ei roi trwy'r geg.
Ar ddiwedd y sesiwn hon byddwch yn gallu:
- Disgrifio symptomau llyngyr yr ysgyfaint mewn gwartheg
- Disgrifio cylchred bywyd llyngyr yr ysgyfaint
- Egluro techneg rhoi brechlyn geneuol