Mae'r sesiwn hon yn cynnwys gwybodaeth am arfer dda wrth ddefnyddio meddyginiaethau milfeddygol ar ffermydd.
Mae hefyd yn darparu gwybodaeth gefndirol sydd ei hangen i gael ac ennill Tystysgrif Cymhwysedd Cyngor Hyfforddi Medrusrwydd Cenedlaethol (NPTC) mewn Defnydd Diogel o Feddyginiaethau Milfeddygol Lefel 2.
Ar ddiwedd y sesiwn hon byddwch yn gallu:
- Cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth bresennol
- Deall cydrannau cynllun rheoli iechyd anifail
- Rhoi amrediad o feddyginiaethau'n ddiogel a di-boen
- Gwybod sut i storio a chludo meddyginiaethau milfeddygol yn gywir
- Cadw anifeiliaid yn iach
- Gwaredu meddyginiaethau diangen yn gywir
- Cofnodi defnydd o feddyginiaethau milfeddygol
- Atal poen a thrallod i anifeiliaid fferm
- Adnabod arwyddion iechyd ac afiechyd