Mae afiechyd yn cael ei achosi gan nifer o ffactorau gwahanol.
Mae'r uned hon yn delio â phrif achosion afiechyd mewn anifeiliaid fferm. Bydd yn edrych ar:
- organebau niweidiol
- amgylchedd yr anifail
- niwed corfforol
- ffactorau maethol
- anhwylderau metabolig
- straen
- cemegau
- alergeddau
- problemau etifeddol
Ar ddiwedd y sesiwn hon, byddwch chi yn gallu:
- Dweud beth yw achosion afiechyd mewn anifeiliaid fferm
- Egluro beth yw ffactorau rhagdueddol ar gyfer afiechyd
- Gwerthuso rôl y ffermwr da byw i atal afiechyd