Mae creu rhaglenni iechyd ar gyfer yr holl ddosbarthiadau da byw yn awr yn rhan bwysig yng nghynlluniau codau lles a gwarant fferm.
Mae'n cynnwys adnabod problemau penodol ar ffermydd, ffurfio protocolau wrth ddelio â chlefyd a gosod targedau..
Bioddiogelwch da sydd wrth wraidd holl gynllunio iechyd ar ffermydd.
Ar ddiwedd y sesiwn hon byddwch yn gallu:
- Egluro sut mae ffurfio cynllun iechyd
- Disgrifio cynllun iechyd cyffredinol ar gyfer gwartheg godro a defaid
- Gwerthuso pwysigrwydd bioddiogelwch ar ffermydd