|
Ateb Dr
Data:
Annwyl Andrew,
Diolch i chi am eich cwestiwn. Buom yn pendroni yn hir os mai
cwestiwn
mathemategol oedd hwn. Daethom i'r casgliad ei fod yn cynnwys
elfennau
mathemategol ac felly dyma'r ateb.
Yr ateb syml ydy bod pellter yr haul o'r ddaear yn newid yn
gyson. Mae'r
ddaear yn teithio o amgylch yr haul mewn cylchdro elips (siâp
wy). Oherwydd
hyn mae pellter yr haul o'r ddaear ym Mis Ionawr yn wahanol i
bellter yr
haul o'r ddaear ym Mis Mehefin.
Ym Mis Ionawr mae'r haul yn agosach i'r ddaear nac ar unrhyw
adeg arall
(beth mae gwyddonwyr yn ei alw'n "perihelion") sef 147
miliwn km (tua 92
miliwn milltir) ac ym Mis Mehefin mae'r haul yn bellach o'r
ddaear nac ar
unrhyw adeg arall (beth mae gwyddonwyr yn galw'n
"aphelion") sef 152 miliwn
km (tua 94 miliwn milltir).
Fel arfer mae gwyddonwyr yn cymryd cyfartaledd y pellter sef
149.5 miliwn km
neu 93 miliwn milltir.
Gobeithio bod hyn yn ateb eich cwestiwn.
Ateb gan..
Dr Owain |