|
Diolch
o galon i chi Ddosbarth Miss Williams am ofyn cwestiwn mor dda (Beth
yw'r rhif mwyaf yn y byd i gyd?)
Yr ateb syml ydy...does na ddim!!
Pam? Wel, meddyliwch am rif mawr...er enghraifft... miliwn, sef 1000000.
Ai hwn ydy'r rhif mwyaf yn y byd?
Nac ydy, oherwydd mae 1000000 + 1 sef 1000001 yn fwy.
10000000000000000000000000000000000000 ydy'r rhif mwyaf yn y byd ta?
Unwaith eto....nac ydy... oherwydd mae
10000000000000000000000000000000000000 + 1 yn fwy.
Beth am dan y rhif:
1000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000
0000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000
0000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000
0000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000000
00000000000000000000000000 ?
A fedrwch adio 1 tuag ato?
Os meddyliwch am dan y broblem yma gallom adio 1 at unrhyw rif ac felly
gallom fynd ymlaen yn adio 1 am byth. Er weithiau rydym yn defnyddio'r
gair
'anfeidroldeb' mewn hafaliadau mathemateg i ddangos rhif sydd yn mynd
ymlaen
am byth, nid yw'n rhif 'go iawn'.
Ateb gan.. Dr Owain
|