|
Ateb Dr Data: Helo Sarah, Diolch am y cwestiwn diddorol. Nid yw cylch fel y rhan fwyaf o siapiau eraill, felly mae'n rhaid cael ffordd wahanol o'i ddisgrifio. Un ffordd o feddwl am gylch yw fel nifer o bwyntiau sydd wedi cael eu cysylltu i greu cylchyn. Mae pob pwynt ar y cylchyn yr un pellter o'r canol ac fe elwir y pellter yma yn radiws y cylch. Pe baech yn sefyll ar ganol y cylch gan wynebu un pwynt ar y cylchyn fe allwch droi yn eich unfan hyd nes eich bod yn wynebu yr un pwynt unwaith yn rhagor. Byddwch wedi troi trwy 360°.
Ateb gan.. Dr Emrys |