Llongyfarchiadau i:

Ddosbarth Miss Jones, Ysgol Gynradd Gymunedol Dihewyd am gael yr ateb yn gywir.
Cawsom nifer o atebion cywir ond disgyblion Miss Jones sydd yn cael y wobr am gyflwyniad trefnus eu gwaith.
Bydd gwerth £50 o feddalwedd ar ei ffordd i'r ysgol.

Noddir y
gystadleuaeth
gan gwmni
Gaia
Technologies,
Bangor

Dyma'r atebion (sydd wedi eu gosod allan yn ardderchog!):

Annwyl Mr Mathew Mateg,

Wel, dyma ni dosbarth Miss Jones yn Ysgol Gynradd Gymunedol Dihewyd yn cystadlu am y tro cyntaf ar eich gwefan chi. Rydym yn cael llawer o hwyl yn chwarae ar eich safwe.
Rydym wedi gwneud llawer o waith ar rifau palindromig yn y dosbarth ond roedd eich cwestiwn chi yn un newydd!! Ar ôl crafu pen am dipyn o amser daethom i'r casgliad fod angen trefn!!


Dyma ein ateb:
100120023003400450056006700780089009
111121123113411451156116711781189119
122122223223422452256226722782289229
133123323333433453356336733783389339
144124423443444454456446744784489449
155125523553455455556556755785589559
166126623663466456656666766786689669
177127723773477457756776777787789779
188128823883488458856886788788889889
199129923993499459956996799789989999

Roedd pawb yn gytûn, mai 90 oedd yr ateb.

Mae 90 rhif pedwar digid, palindromig!!

Bonws:
Roedd y cwestiwn yma yn anodd, ac roedd pawb bron a rhoi'r ffidil yn y tô. Wedyn, dywedodd Miss Jones ein bod ni'n medru defnyddio cyfrifiannell!

Mae 11 yn ffactor i bob un o'r rhifau yn y tabl uchod!

Diolch am y sbort a'r sbri
Antony, Gregory, Andrew, Bethany, James, Matthew, Rochelle, Stephanie, Chemise, Cadog, Anwen a Althaea.