Llongyfarchiadau i:

Llongyfarchiadau i:
Ysgol Gymraeg y Fenni, ar eu llwyddiant y mis yma. Bydd gwerth Ł50 o feddalwedd ar ei ffordd i'r ysgol a thystysgrif yn y post. Cafwyd atebion cywir hefyd gan:

Ysgol y Tymbl

Dafydd Rhun Griffiths o Ysgol Nefyn

Twm Morgan o Ysgol Treferthyr

Ffion Wyn Parry (ar ran Blwyddyn 6) Ysgol Bryngwran

Sarah Bradnam, Rhiannon Horan,

Rhydian Morgan a William Hector o Ysgol Bro Cynfal

Noddir y
gystadleuaeth
gan gwmni
Gaia
Technologies,
Bangor.

Ateb Cystadleuaeth Mis Ionawr


Dyma i chi sut yr aeth Ysgol Gymraeg y Fenni ati i ddod o hyd i’r ateb:

Roedd 8 mins pei ar y plat. Os oedd hynny yn 2/3 roedd 1/3 yn 4, felly cyn i Dad
Iwan fwyta rhai roedd 3x4=12 mins pei ar y plât.


Roedd 12 mins pei ar y plât. Os oedd hynny yn 2/3 roedd 1/3 yn 6, felly cyn i Fam
Iwan fwyta rhai roedd 3x6=18 mins pei ar y plât.


Roedd 18 mins pei ar y plat. Os oedd hynny yn 2/3 roedd 1/3 yn 9, felly cyn i
Iwan fwyta rhai roedd 3x9=27 mins pei ar y plât.
 
I wirio yr ateb, gallech wneud hyn:

27 mins pei ar y plât.  Mae Iwan yn bwyta 1/3 o
rhain, sef 9 mins pei.  Felly 27-9=18.


18 mins pei ar y plât.  Mae Mam Iwan yn bwyta 1/3
o’r rhain, sef 6 mins pei.  Felly 18-6=12.


12 mins pei ar y plât.  Mae Dad Iwan yn bwyta 1/3
o’r rhain, sef 4 mins pei.  Felly 12-4=8.
 
Felly roedd 27 mins pei ar y plât.