Llongyfarchiadau i:
Ysgol y Tymbl, unwaith yn rhagor, ar eu llwyddiant y mis yma. Bydd gwerth £50 o feddalwedd ar ei ffordd i'r ysgol a thystysgrif yn y post.

Noddir y
gystadleuaeth
gan gwmni
Gaia
Technologies,
Bangor.

Ateb Cystadleuaeth Mis Medi

 

Y rhif lleiaf 2 ddigid yw 10. Y nesaf yw 11 a'r nesaf wedyn yw 12.
Mae'n rhaid adio rhain a gweithio’r gwahaniaeth rhwng y cyfanswm a 99.

1. Felly y rhif mwyaf y gellir ei gael ar y papur yw 66

2. Fel dosbarth, buom yn gweithio allan y rhifau cysefin hyd at 100. Roedd rhaid gwaredu 1,2,3,5,7 a 9 am nad oeddynt yn rifau dau ddigid!

Buom yn defnyddio ein byrddau gwyn ac mae gennym 4 gwahanol ateb:

Ateb Jessica : 31+19+37+11
Ateb Rosie, Sara a Ben: 43+11+13+31
Ateb James : 53+11+13+21
Ateb Charles : 31+37+17+13

Y CYFANSWM MWYAF Y GALLWN EI GAEL GYDA RHIFAU CYSEFIN GWAHANOL YN UNIG YW 98!

Oddi wrth Dosbarth Miss Lewis (Blwyddyn 4 a 5)

Ysgol Y Tymbl
Y Tymbl
Sir Gaerfyrddin