Llongyfarchiadau i:
Ysgol y Tymbl, unwaith yn rhagor, ar eu llwyddiant y mis yma. Bydd gwerth £50 o feddalwedd ar ei ffordd i'r ysgol a thystysgrif yn y post.

Noddir y
gystadleuaeth
gan gwmni
Gaia
Technologies,
Bangor.

Ateb Cystadleuaeth Mis Rhagfyr


I ddatrys y broblem yma mae'n rhaid sylweddoli bod y person cyntaf yn ysgwyd llaw gydag un person yn llai na nifer y grwp. Mae'r person nesaf yn ysgwyd llaw gydag un person yn llai oherwydd mae o wedi ysgwyd llaw unwaith gyda'r person cyntaf.

Hynny ydy:

30 o bobl yn y grwp

Person 1 yn ysgwyd llaw gyda 29 o bobl.
Person 2 yn ysgwyd llaw gyda 28 o bobl newydd (heb                  gynnwys y person cyntaf oherwydd mae'r ysgydwad wedi cael ei gyfrif unwaith).
Person 3 yn ysgwyd llaw gyda 27 o bobl newydd.
Person 4 yn ysgwyd llaw gyda 26 o bobl newydd. 
»
Fedrwch chi weld patrwm? 
»
Person 28 yn ysgwyd llaw gyda 2 berson newydd
Person 29 yn ysgwyd llaw gyda 1 person newydd
Person 30 yn ysgwyd llaw gyda 0 person newydd. 

Felly yr ateb ydy:

29 + 28 + 27 + 26 + 25 + 24 + 23 + 22 + 21 + 20 + 19 + 18 + 17 + 16 + 15 + 14 + 13 + 12 + 11 + 10 + 9 + 8 + 7 + 6 + 5 + 4 + 3 + 2 + 1 + 0 

= 435
   

Allwch chi weithio sawl ysgydwad fuasai'n digwydd petai 100 o bobl yn y grwp? Ceisiwch ddarganfod fformwla fel nad oes rhaid adio'r holl rifau.