Llongyfarchiadau i:

Ysgol y Borth ar eu llwyddiant y mis yma. Bydd gwerth £50 o feddalwedd ar ei ffordd i'r ysgol a thystysgrif yn y post. Llongyfarchiadau hefyd i'r nifer ohonoch gafodd yr ateb yn gywir y mis yma.

Noddir y
gystadleuaeth
gan gwmni
Gaia
Technologies,
Bangor.

Ateb Cystadleuaeth Mis Tachwedd

 

Anghofiodd Ifan dilyn rheol ofnadwy wrth ateb hafaliadau. Ni fedrwch ateb cwestiynau fel hyn wrth weithio o'r chwith i’r dde yn unig.  Mae'n rhaid i chi ateb yr hafaliadau mewn trefn arbennig.

 

1. O'r chwith i’r de, atebwch y symiau lluosi a rhannu ;
2. O'r chwith i’r de, atebwch y symiau adio a thynnu.

 

 Dyma'r ateb cywir

 

 1. Rydym am feddwl am symiau rhannu fel ffracsiynau, felly mae 
     1÷3 yn 1/3; 1÷34 yn 1/34 a 3÷7 ydy 3/7.
 
2. Rhowch gromfachau o gwmpas pob sym lluosi neu rannu
    4 + 9 - [2x16] + [(1/3) x 6] - 67 + (8 x 2) -3 + 26 - (1/34) + (3/7) + 2 - 5
 
3. Datryswch y symiau tu mewn i'r cromfachau
    13 - 32 + 2 -67 + 16 - 3 +26 - 1/34 + 3/7 + 2 - 5

 

4. Datryswch y symiau adio a thynnu  ond peidiwch ag adio'r ffracsiynau eto
    - 48 - 1/34 + 3/7

 

5. - 48 + 3/7 - 1/34

 

6.  - 48 + 102/238 - 7/238

 

7. - 48 + 95/238

 

8. Felly yr ateb ydy – 47143/238

 

Os dewisoch ddefnyddio cyfrifiannell i weithio allan y symiau rhannu buasech wedi cael ateb

            o - 47.60084034