Ennillwch dystysgrif i'w
rhoi ar y wal.

Ennillwch feddalwedd
mathemateg i'ch ysgol!!

 

Noddir y
gystadleuaeth
gan gwmni
Gaia
Technologies,
Bangor


Helpwch Ifan i ddatrys ei broblem
?

Mae Ifan eisiau symud y blociau yma o bwynt A i C


A

B

C

Dydy Ifan ddim yn cael rhoi bloc mawr ar ben bloc bach a tydy o ddim yn cael symud mwy nac un bloc ar y tro. Arbrofwch gyda blociau yn eich ysgol neu cewch arbrofi gan ddefnyddio'r p�s ar y safle yma (cliciwch yma)

Cystadleuaeth Mis Medi

Beth sy'n rhaid i chi ei wneud - syml!

Danfonwch i ni y nifer lleiaf o symudiadau y buasai'n ei gymryd i symud 15 bloc o A i C. Dangoswch sut y cyrhaeddoch eich ateb trwy yrru e bost atom - gyda lluniau os hoffech ! Nodwch eich enw a cyfeiriad eich ysgol.

Pob Hwyl !!

Os bydd mwy nac un ysgol yn cael yr ateb cywir byddwn yn tynnu enwau o het. Bydd penderfyniad Mr Mathew Mateg, pennaeth y safle yn derfynol. Bydd enw'r ysgol fuddugol yn ymddangos ar y safle.

Cliciwch yma i yrru e bost
: rhifedd@cynnal.gwead.cymru.org