Ennillwch dystysgrif i'w
rhoi ar y wal.

Ennillwch feddalwedd
mathemateg i'ch ysgol!!

 

Cystadleuaeth Mis Chwefror

Pos y Balwns

Noddir y
gystadleuaeth
gan gwmni
Gaia
Technologies,
Bangor

Yn y ffair roedd stondin yn gwerthu balwns. Roedd y balwns yn goch, melyn a glas.

Roedd y cyfan o’r balwns ond 8 yn goch.

Roedd y cyfan o’r balwns ond 7 yn las.

Roedd y cyfan o’r balwns ond 9 yn felyn.

Beth sy’n rhaid i chi ei wneud?

Rhowch wybod i ni, trwy e-bost, sawl balwn goch oedd ar y stondin.

 

      

Pob Hwyl !!
  
Os bydd mwy nac un ysgol yn cael yr ateb cywir byddwn yn tynnu enwau o het. Bydd penderfyniad Mr Mathew Mateg, Pennaeth y safle yn derfynol. Bydd enw'r ysgol fuddugol yn ymddangos ar y safle.
    
Cliciwch yma i ddanfon ebost gyda'ch ateb: rhifedd@cynnal.gwead.cymru.org

Nodwch eich enw a cyfeiriad eich ysgol.