Ennillwch dystysgrif i'w
rhoi ar y wal.

Ennillwch feddalwedd
mathemateg i'ch ysgol!!

Cystadleuaeth
Mis Ebrill 2002

Archif Cystadleuaeth

Noddir y
gystadleuaeth
gan gwmni
Gaia
Technologies,
Bangor

Ail drefnwch y rhifau o 1 i 9 fel i greu hafaliad sydd yn hafal i 100. Dyma esiampl: 12 + 3 + 4 + 5 - 6 - 7 + 89 = 100. Un waith, ag unwaith yn unig y gellwch ddefnyddio'r rhifau 1 i 9 OND mae'n rhaid eu defnyddio  i gyd. Nid oes angen cadw'r rhifau yn yr un drefn ac fe gewch ddefnyddio unrhyw arwydd yn eich hafaliad. Dyma i chi engrhaifft arall: 98 3/6 + 1 27/54 = 100

Sawl gwahanol ffordd fedrwch chi ei darganfod?

Pob Hwyl !!
  
Os bydd mwy nac un ysgol yn cael yr ateb cywir byddwn yn tynnu enwau o het. Bydd penderfyniad Mr Mathew Mateg, Pennaeth y safle yn derfynol. Bydd enw'r ysgol fuddugol yn ymddangos ar y safle.
    
Cliciwch yma i ddanfon ebost gyda'ch ateb: rhifedd@cynnal.gwead.cymru.org

Nodwch eich enw a cyfeiriad eich ysgol.