Ennillwch dystysgrif i'w
rhoi ar y wal.

Ennillwch feddalwedd
mathemateg i'ch ysgol!!

 

Noddir y
gystadleuaeth
gan gwmni
Gaia
Technologies,
Bangor

Cystadleuaeth Mis Ionawr

Mae gwyliau'r Nadolig ar ben ond mae problem ar Ifan  angen eich cymorth i ddatrys problem.
Ar ddydd Nadolig roedd Ifan, ei Fam a'i Dad yn cysgu o flaen y teledu ar ôl bwyta cinio mawr. Deffrodd Ifan a gwelodd blât o 'mins peis'. Bwytaodd Ifan draean o'r peis cyn mynd allan i chwarae. Cyn bo hir deffrodd Mam Ifan. Gwelodd hithau'r  peis a bwytaodd draean o'r peis oedd ar ôl.  Ymhen ychydig o amser fe ddeffrodd Tad Ifan. Sylweddolodd bod nifer o'r peis wedi cael eu bwyta ac aeth ati i fwyta ychydig mwy. Bwytodd Tad Ifan draean o'r peis oedd ar ôl. Pan ddaeth Ifan i mewn fe welodd mai wyth 'mins pei' oedd ar ôl.

  

Beth sy'n rhaid i chi ei wneud?

Darganfyddwch sawl mins pei oedd ar y plât i gychwyn.

 

      

Pob Hwyl !!
  
Os bydd mwy nac un ysgol yn cael yr ateb cywir byddwn yn tynnu enwau o het. Bydd penderfyniad Mr Mathew Mateg, Pennaeth y safle yn derfynol. Bydd enw'r ysgol fuddugol yn ymddangos ar y safle.
    
Cliciwch yma i ddanfon ebost gyda'ch ateb: rhifedd@cynnal.gwead.cymru.org

Nodwch eich enw a cyfeiriad eich ysgol.