Ennillwch dystysgrif i'w
rhoi ar y wal.

Ennillwch feddalwedd
mathemateg i'ch ysgol!!

 

Archif Cystadleuaeth

Noddir y
gystadleuaeth
gan gwmni
Gaia
Technologies,
Bangor

Cystadleuaeth Mis Ionawr

Yn ystod gwyliau'r Nadolig aeth Ifan a'i deulu i wylio ffilm, "Harry Potter." Costiodd y cyfan £27.45 rhwng pawb.  "Tybed faint oedd côst mynd i'r pictiwrs mewn arian storiau Harry Potter, meddyliodd Ifan?

Wrth ddarllen y llyfrau roedd Ifan yn gwybod bod 3 gwahanol fath o arian yn cael ei ddefnyddio; Y Galion, Y Sicl a'r Cnwt.

Mae 29 Cnwt = 1 Sicl
Mae 17 Sicl = 1 Galion 

Wrth edrych yn un o'i lyfrau fe sylweddolodd bod £3.99 =  27 Sicl ac 15 Cnwt. 

Beth sy'n rhaid i chi ei wneud?

Helpu Ifan i weithio allan faint dalodd ei deulu i wylio'r ffilm gan ddefnyddio, Galionau, Siclau a Cnytion (cewch ddefnyddio cyfrifianell). 
h.y. Os 65 mai Cnwt ydy eich ateb mae rhaid  i chi roi yr ateb fel hyn:
2 Sicl a 7 Cnwt

 

Pob Hwyl !!
  
Os bydd mwy nac un ysgol yn cael yr ateb cywir byddwn yn tynnu enwau o het. Bydd penderfyniad Mr Mathew Mateg, Pennaeth y safle yn derfynol. Bydd enw'r ysgol fuddugol yn ymddangos ar y safle.
    
Cliciwch yma i ddanfon ebost gyda'ch ateb: rhifedd@cynnal.gwead.cymru.org

Nodwch eich enw a cyfeiriad eich ysgol.