Ennillwch dystysgrif i'w
rhoi ar y wal.

Ennillwch feddalwedd
mathemateg i'ch ysgol!!

Cystadleuaeth Mis Mai

 

Noddir y
gystadleuaeth
gan gwmni
Gaia
Technologies,
Bangor

Mae Mam Sioned am wneud brechdanau caws a jam ar gyfer carnifal y pentref 
(mae brechdan yn cynnwys un darn o fara) . 

Fe all baratoi 18 brechdan gydag un pot o jam (heb adael gwastraff).
Fe all baratoi 60 brechdan gydag un bloc o gaws (heb adael gwastraff).
16 darn o fara sydd ym mhob torth (heb adael gwastraff).

Cwestiwn 1
Sawl pot o jam, bloc o gaws a thorth o fara fydd rhaid i Mam Sioned eu prynu i sicrhau nad oes unrhyw fath o wastraff, hynny ydy, dim gwastraff jam,caws na bara ar ôl paratioi'r brechdanau?

Cwestiwn 2
Sawl brechdan caws a jam fydd Mam Sioned yn ei gwneud ar gyfer y carnifal?

Pob Hwyl !!
  
Os bydd mwy nac un ysgol yn cael yr ateb cywir byddwn yn tynnu enwau o het. Bydd penderfyniad Mr Mathew Mateg, Pennaeth y safle yn derfynol. Bydd enw'r ysgol fuddugol yn ymddangos ar y safle.
    
Cliciwch yma i ddanfon ebost gyda'ch ateb: rhifedd@cynnal.gwead.cymru.org

Nodwch eich enw a cyfeiriad eich ysgol.