logo.jpg (8883 bytes)

logocystad_5.jpg (10515 bytes)

Ennillwch dystysgrif i'w
rhoi ar y wal.

Ennillwch feddalwedd
mathemateg i'ch ysgol!!

Cystadleuaeth Mis Mehefin 2001

 

Noddir y
gystadleuaeth
gan gwmni
Gaia
Technologies,
Bangor

Mae Sion, Emyr, a Sian am fynd i Alton Towers. Mae yna reid newydd, o'r enw "Y Crevasse", sydd yn arbennig o dda. Yn anffodus, mae rheolwyr y reid wedi cyfyngu holl bwysau'r reid i 110Kg . Mae'r tri ffrind eisiau mynd ar y reid gyda'i gilydd.

Nid yw'r  glorian yn gallu dal mwy na dau ar y tro ac maent hwy am wybod beth yw pwysau'r tri gyda'u gilydd. Am eu bod yn hynod gyfeillgar nid ydynt am fynd ar y glorian ar eu pennau eu hunain.

Dyma beth maent yn ei ddysgu:

Mae Sion ac Emyr (gyda'i gilydd) yn pwyso 90 Cilogram.
Mae Sion a Sian (gyda'i gilydd) yn pwyso 68 Cilogram.
Mae Emyr  Sian (gyda'i gilydd) yn pwyso 52 Cilogram.

Gawn nhw i gyd fynd ar "Y Crevasse" gyda'i gilydd?

Cofiwch ddangos prawf o'r ffordd y daethoch o hyd i'r ateb.

Pob Hwyl !!
  
Os bydd mwy nac un ysgol yn cael yr ateb cywir byddwn yn tynnu enwau o het. Bydd penderfyniad Mr Mathew Mateg, Pennaeth y safle yn derfynol. Bydd enw'r ysgol fuddugol yn ymddangos ar y safle.
    
Cliciwch yma i ddanfon ebost gyda'ch ateb: rhifedd@cynnal.gwead.cymru.org

Nodwch eich enw a cyfeiriad eich ysgol.