![]() |
|||
Ennillwch dystysgrif i'w Ennillwch feddalwedd |
![]() |
||
Noddir y |
|||
Cystadleuaeth Mis Tachwedd |
|||
Mae Ifan wedi bod yn chwarae o gwmpas gyda'r rhifau 1, 2, 3 a 4 ac
yr arwyddion mathemategol ( +, -, x, ÷ ). Dyma rhai
enghreifftiau o beth ddarganfyddiodd Ifan. |
|||
|
1 + 2 + 3 + 4 =10 |
||
|
34 - 12 = 22 |
||
|
(1 x 34) ÷ 2 = 17 |
||
|
|||
Beth sy'n rhaid i chi ei
wneud? |
|||
A
fedrwch chi helpu Ifan? Mae'n rhaid i Ifan defnyddio'r rhifau 1, 2, 3 a 4 yn
unig i greu hafaliadau. Mae rhaid i Ifan defnyddio'r pedwar
rhif ym mhob hafaliad (sym); mae'n rhaid iddo ddefnyddio'r rhifau un
waith yn unig ac mae'n rhaid iddo ddarganfod pob ateb rhwng 1
a 40. |
|||
Mae'r
atebion 10, 17 a 22
wedi eu gwneud yn barod i chi. |
|||
Pob Hwyl !! Os bydd mwy nac un ysgol yn cael yr ateb cywir byddwn yn tynnu enwau o het. Bydd penderfyniad Mr Mathew Mateg, Pennaeth y safle yn derfynol. Bydd enw'r ysgol fuddugol yn ymddangos ar y safle. Cliciwch yma i ddanfon ebost: rhifedd@cynnal.gwead.cymru.org Nodwch eich enw a cyfeiriad eich ysgol. |