Ydy on Rhannu? Sut y gallwch chi wybod yn gyflym a yw un rhif yn rhannu yn union i rif arall, gan adael dim yn weddill? Er enghraifft, a wnaiff 3 rannu yn union i 2,169,252? Wel, faswn i ddim wedi sôn am y peth heblaw mod in gwybod am dric... Rhannu efo 2 Dim byd i synnu ato yma. Mae unrhyw rif syn gorffen efo 0,2,4,6 neu 8 yn ranadwy efo 2. Rhannu efo 3 Adiwch ddigidau y rhif. Os ywr cyfanswm yn union ranadwy efo 3, yna maer rhif hefyd. Felly, a wnaiff 3 rannun union i 2,169,252? Gwnaiff, oherwydd mae cyfanswm y digidau yn 27. Rhannu efo 4 Os yw 2 ddigid olaf rhif yn 00 neu os ydynt yn ffurfio rhif 2-ddigid syn rhannun union efo 4, yna maer rhif ei hunan yn ranadwy efo 4. Beth am 56,789,000,000? 00 ywr ddau ddigid olaf, felly maen rhanadwy efo 4. Beth am drio 786,565,544. 44 ywr ddau ddigid olaf, maent yn rhanadwy efo 4, felly ydy, maer rhif yn rhanadwy efo 4. Rhannu efo 5 Mae unrhyw rif syn gorffen mewn 0 neu 5 yn ranadwy efo 5. Digon hawdd. Rhannu efo 6 Maen rhaid ir rhif fod yn eilrif. Os nad ydy o, anghofiwch o. Fel arall, adiwch y digidau i weld os ywr cyfanswm yn union ranadwy efo 3. Os ydy o, maer rhif yn union ranadwy efo 6. Beth am drio 108,273,288. Cyfanswm y digidau yw 39 sydd yn rhannun union efo 3 i wneud 13, felly maer rhif yn union ranadwy efo 6. Rhannu efo 7 Yn wreiddiol doeddwn i ddim yn gwybod am ddull rhannu efo 7 nes i mi ei ddarganfod ar y Rhyngrwyd. Felly, maer adran hon yn gyflawn. Lluoswch y digid olaf efo 2. Tynnwch yr ateb hwn or digidau sydd ar ôl. A ywr rhif sydd gennych yn awr yn union ranadwy efo 7? Os ydy o, dwedwch hwre. Triwch 364. Y digid olaf, 4, wedi ei luosi efo 2 = 8. Y digidau sydd ar ôl, 36, tynnu 8 = 28. Y tro diwethaf i mi edrych, roedd 28 yn union ranadwy efo 7, ac felly mae 364 hefyd. Rhannu efo 8 Os yw 3 digid diwethaf y rhif yn 000 neu os ydynt yn ffurfio rhif 3-digid sydd yn union ranadwy efo 8, yna maer rhif ei hunan yn ranadwy efo 8. Beth am drio 56,789,000,000? 000 ywr tri digid olaf, felly maen ranadwy efo 8. Trïwch 786,565,120. Maer tri digid olaf,120, wedi rhannu efo 8 yn gwneud 15, felly ydy, maer rhif cyfan yn ranadwy efo 8. Rhannu efo 9 Cyfansymiwch ddigidaur rhif. Os ydywn rhannu efo 9, dyna chi! Rhannu efo 10 Mae unrhyw rif syn gorffen mewn 0 yn union ranadwy efo 10. Allwch chi ddod o hyd i batrwm ar gyfer 11, 12 a 15? Anfonwch eich ateb atom. |