Mathemateg Diddorol

Rhifau’r Beibl - 153

"Dringodd Simon Pedr i’r cwch, a thynnu’r rhwyd i’r lan yn llawn o bysgod braf, cant pum deg a thri ohonynt. Ac er bod cymaint ohonynt, ni thorrodd y rhwyd." (Efengyl Ioan 21:11)

Mae 153 yn rif taclus. Dyma bedwar rheswm:

  1. 153 = 1 + 2 + 3 + 4 + 5 + 6 + 7 = 8 + 9 + 10 + 11 + 12 + 13 = 14 + 15 +
  2. 16 + 17

  3. 153 = 1! + 2! + 3! + 4! + 5! (h.y., 1 + (1 x 2) + ( 1 x 2 x 3) + ( 1 x 2 x 3 x
  4. 4) + (1 x 2 x 3 x 4 x 5))

  5. 153 = 1³ + 5³ + 3³
  6. Cymrwch unrhyw luosrif o dri, adiwch giwbiau ei ddigidau, ewch ymlaen i giwbio digidau'r atebion a'u hadio.

 Credwch fi, mi gewch chi 153 yn y diwedd.

Cymrwch 12, fel enghraifft.

1³ + 2³ = 9

9³ = 729

7³ + 2³ + 9³ = 1080

1³ + 0³ + 8³ + 0³ = 513

Yn olaf, 5³ + 1³ + 3³ = 153