Yn Genesis 32:14, mae Jacob yn rhoi 220 o eifr i Esau ( "dau gant o eifr ac ugain o fychod") fel arwydd o gyfeillgarwch. Ers talwm yng ngwlad Groeg roedd pobl yn gwirioni ar fathamateg. Roeddynt wedi clustnodi 220 fel rhif "cyfeillgar". Beth oedd yn ei wneud yn gyfeillgar? Wel, mae gan 220, yn wahanol ir rhan fwyaf o rifau, ffrind agos, 284. Hynny yw, maer ddau yn hafal i swm ffactorau cywir y llall. (Be?!) Ffactorau cywir ydyr holl rifau syn rhannu yn union i mewn i rif, gan gynnwys 1 ond heb gynnwys y rhif ei hun. Ffactorau cywir 220 ydy 1, 2, 4, 5, 10, 11, 20, 22, 44, 55, a 110. Adiwch y rhifau hynny i gyd ac mi gewch 284. Yn yr un modd, ffactor cywir 284 ydyw 1, 2, 4, 71, a 142, ac maent yn cyfansymu i 220. |