Mathemateg Diddorol

Mathemateg Bysedd

Beth am ddefnyddio'ch bysedd i wneud tipyn o gyfri?

Lluosi efo 9

Rhowch eich dwylo ar y bwrdd o'ch blaen a rhoi rhif i bob bys fel y diagram.

Os nad oes llun yma cliciwch ar yr icon flash i lawrlwytho'r chwaraewr.

Y rhifau yma fydd y rhifau i'w lluosi hefo 9. Sut mae gwneud hyn? Wel,  rhowch y bys i'w luosi  efo 9 i lawr. Defnyddiwch y diagram yma i'ch helpu. Cliciwch ar y gair dechrau.

Mae’r bysedd  i’r chwith o’r bys yma  yn cynrychioli'r degau ac mae'r bysedd i’r dde yn cynrychioli'r unedau.

Felly mae 3 x 9 yn rhoi 2 fys ar y chwith sydd yn ddegau a 7 bys i fyny ar y dde sydd yn unedau.

Rhowch y rhifau efo’i gilydd ac mae gennych ateb: 27.

Triwch rifau eraill i weld os ydy'r tric yn gweithio.