Mathamateg
Diddorol

Mathemateg Bysedd
Lluosi efo 6-10

Mae hwn ychydig yn fwy twyllodrus. Mi wnai drio ‘ngorau i egluro.

Daliwch eich dwylo o’ch blaen fel bod eich bodiau yn pwyntio tuag at ei gilydd.

Dychmygwch fod y ddau fawd yn cynrychioli 6, y ddau fys blaen yn 7, ac yn y blaen nes bod y ddau fys bach yn cynrychioli 10. Mewn geiriau eraill, dychmygwch fod 6 wedi ei ysgrifennu ar y ddau fawd, 7 ar y ddau fys blaen,a.y.y.b., fel bod ganddoch 6,7,8,9,10 ar y llaw dde a 6,7,8,9,10 ar y llaw chwith. Mae hyn yn caniatau i ni luosi unrhyw gyfuniad o’r rhifau hynny, er enghraifft 7 x 8.

Cymrwch fys blaen eich llaw chwith, sy’n cynrychioli 7, a chyffwrdd bys canol eich llaw dde, sy’n cynrychioli 8. Fel rydych yn gwneud hyn, cadwch eich bodiau yn pwyntio i lawr.

Adiwch yr holl fysedd O DANODD, yn cynnwys y ddau fys sy’n cyffwrdd. Yn yr achos hwn, 5 yw eich cyfanswm – eich bys blaen a’ch bawd ar y llaw chwith plws eich bys canol, bys blaen a’ch bawd ar y llaw dde. Lluoswch y rhif hwnnw efo 10. Ac mi gewch 50.

Rwan, cyfrwch yr holl fysedd ar y ddwy law sydd UWCHBEN, ond HEB gynnwys y ddau fys sydd yn cyffwrdd. Yn yr achos hwn mae gennych 3 ar y llaw chwith a 2 ar y llaw dde. Lluoswch y ddau rif hyn. Mi gewch 6.

Adiwch y ddau rif efoi gilydd i gael eich ateb: 50 + 6 = 56. Dyna’r ateb!