Mathemateg Diddorol
Triciau Lluosi
luosi unrhyw rif o ddau ffigwr e.e. 34, efo 11: Ysgrifennwch
gyfanswm y digidau rhwngddynt. Felly, 34 x 11 = 374. (3 + 4 = 7; rhowch y 7 rhwng y 3
ar 4).
Pan fo cyfanswm y ffigyrau e.e. 98 yn fwy na 9, cynnyddwch
y rhif ar y chwith h.y y 9 o 1 sef 10.
(9 + 8 = 17; adio 1 at 9 i gael 10; gosod y 7 rhwng y 10
ar 8). Felly, 98 x 11 = 1078
I sgwario unrhyw rif syn gorffen efo 5 e.e. 35
Gadewch y 5 allan, a lluoswch y rhif fel y mae, heb y 5,
efor rhif nesaf,
3 x 4 = 12.
yna ychwanegwch 25 at y lluoswm.
12 a 25 sef 1225
Felly mae 35X35 =1225
Er mwyn sgwario unrhyw ffracsiwn gyfansawdd syn
cynnwys ½ e.e. 5½ lluoswch y rhif cyfan efor rhif cyfan nesaf ac ychwanegwch ¼ at
y lluoswm.
(5 x (6) = 30; ychwanegu ¼ i gael 30¼.)
Felly, 5½ x 5½ = 30¼.
I luosi unrhyw rif gan unrhyw nifer o 9 (er enghraifft, 28 x
99), ychwanegwch gynifer o 0 ir lluosyn ag sydd yna o rif 9 yn y lluosydd (2800), ac
or rhif hwn tynnwch y lluosyn (2800 28 = 2772).
Y gweddill ywr ateb 2772
 |