Mathemateg Diddorol

Triciau Rhannu

I rannu unrhyw rif efo 125, lluoswch efo 8 a rhannwch efo 1000.

(enghraifft: 7000/125 = (7000 x 8)/1000 = 56).

I rannu unrhyw rif efo 50, lluoswch efo 2 a rhannwch efo 100.

I rannu unrhyw rif efo 500, lluoswch efo2 a rhannwch efo 1000.

I rannu unrhyw rif efo 5, lluoswch efo 2 a rhannwch efo 10.

I rannu unrhyw rif efo 25, lluoswch efo 4 a rhannwch efo 100.

I rannu unrhyw rif efo 250, lluoswch efo 4 a rhannwch efo 1000.

I rannu unrhyw rif efo 75, rhannwch efo 3, lluoswch efo 4, yna rhannwch efo 100.

Allwch chi weithio allan sut i rannu unrhyw rif trwy ddefnyddio’r atebion uchod gyda’r canlynol:

  • 0.5
  • 2.5
  • 7.5
  • 12.5
  • 0.05
  • 0.25
  • 0.75
  • 1.25

 Os ydych chi’n dod o hyd i unrhyw driciau eraill defnyddiol ar gyfer rhannu, gadewch i ni wybod.