Dyma i chi dric clyfar. Cymrwch eich oedran, lluoswch ef gyda 7, yna lluoswch y lluoswm efo 1443. Beth gewch chi? Daliwch yn dynn yn eich trôns! Mae eich oedran yn cael ei ailadrodd 3 gwaith. Edrychwch: 28 (oedran) x 7 = 196. 196 x 1443 = 282828 A dweud y gwir, beth ydych chin wneud yw lluosi eich oedran efo 10101. Bydd eich oedran yn ailadrodd ei hunan 4 gwaith os wnewch chi ei luosi efo 1010101. Sylwoch chi ar sawl un oedd yna? Ia, pedwar, a dyna pam yr ailadroddir yr oedran dair gwaith. Beth os ydych yn 9 oed neun iau? Ydy hyn yn dal i weithio? Wel ... rhywsut. Mi gewch 90909, neu mewn gwirionedd, 090909. I fwynhau hyn yn iawn, maen help i fod yn 10 oed neu fwy. Sori, blant. |