Castell Biw mares, a ddechreuwyd yn 1295, oedd yr olaf a’r mwyaf o’r cestyll a godwyd gan y Brenin Edward I yn Nghymru. Wedi’i godi ar safle newydd sbon, heb adeiladau cynharach i rwystro athrylith greadigol ei gynllunydd, dyma o bosib yw’r enghraifft fwyaf soffistigedig o bensaernïaeth filwrol yr oesoedd canol a welir ym Mhrydain.
Isod: golygfa o’r awyr o’r castell o’r de-ddwyrain
Yma’n ddiau gwelir uchafbwynt y castell ‘consentrig’ , wedi’i adeiladu â chymesuredd geometrig bron. Gan ei fod wedi’i gynllunio fel cyfanwaith, mae ynddo gylch mewnol o amddiffynfeydd uchel wedi’u hamgylchynu â chylch is o furiau allanol, a’r cyfan yn creu safon o gryfder amddiffynnol ac ymosodol nas gwelwyd o’r blaen. Cyn dyfodiad y canon heb os, byddai unrhyw ymosodwr yn wynebu caer anorchfygadwy. Eto, yn eironig, ni chwblhawyd y gwaith adeiladu, ac ni welodd y castell rhyw lawer o frwydro ar wahân i’r Rhyfel Cartref yn y 17 eg ganrif.
Isod: dwy olygfa allanol o gysylltfur trawiadol castell Biwmares: ochr orllewinol y castell gyda’i ffos ddŵr, a’r ochr ddwyreiniol
gyda’r ffos wedi’i llenwi i mewn.
Cafodd y castell ei gynllunio bron yn sicr pan ddaeth y Brenin Edward ar ymweliad â Môn yn 1283, gan enwi tref Gymreig Llanfaes fel y dref sirol. Ar y pryd, roedd adnoddau eisoes yn brin a chafodd y cynllun ei ohirio. Yna, yn 1294-95, gwrthryfelodd y Cymry dan arweiniad Madog ap Llywelyn. Trechwyd y gwrthryfelwyr wedi ymgyrch galed dros y gaeaf, a phenderfynwyd codi castell newydd ym mis Ebrill 1295. Mae grym y Saeson i’w weld yn y ffaith i holl boblogaeth frodorol Llanfaes gael ei gorfodi i symud i dref newydd, a gafodd yr enw ‘Newborough’ (Niwbwrch). Dechreuwyd adeiladu’r castell ei hun ar y ‘gors brydferth’, neu’r ‘Beau Mareys’ yn yr iaith Ffrangeg-Normanaidd,. Aeth y gwaith adeiladu ymlaen yn rhyfeddol o gyflym, gyda rhyw 2,600 o wŷr yn gweithio arno yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Ar y dde isod: prif fynedfa’r castell trwy borthdy’r de
Gyda’i flynyddoedd o brofiad o adeiladu cestyll yn Nghymru ac ar y Cyfandir, un yn unig a roddwyd yng ngofal y gwaith, sef Meistr James o St. George. Mae’n ddigon hawdd gweld, hyd yn oed wedi 700 mlynedd, pa mor rhyfeddol o soffistigedig oedd ei gynllun cymhleth ym Miwmares. Yr amddiffynfa gyntaf oedd ffos ddŵr tua 18 troedfedd o led. Yn ei phen deheuol roedd doc llanw a fyddai’n caniatáu i longau 40 tunnell o bwysau hwylio’n syth at y brif fynedfa. I warchod y doc, rhoddwyd dec saethu ar Rodfa’r Gynnwr.
Y tu draw i’r ffos mae cysylltfur isel y beili allanol , ynghyd â’i 16 o dyrau a dau borth. Ar yr ochr ogleddol, mae’n debyg na chwblhawyd porth Llanfaes. Ar y llaw arall, yn achos y porth nesaf at y môr, fe welir o hyd dystiolaeth o’i ddrysau pren cadarn a’i ‘dyllau mwrdwr’ erchyll uwchben. Unwaith y byddai ymosodwr wedi mynd trwyddo, roedd 11 o rwystrau ar ôl i’w lesteirio cyn y byddai’n cyrraedd canol y castell. Roedd rheiny’n cynnwys y barbican, ‘tyllau mwrdwr’ pellach, tri phorthcwlis a setiau o ddrysau. Pe bai tramwyfa brawychus y porth yn profi’n ormod, ni fyddai ymosodwr a ddaliwyd yn oedi rhwng y muriau mewnol ac allanol yn debygol o bara’n hir. Byddai cawodydd trwm o saethau wedi disgyn arno o bob cyfeiriad.
Nodwedd fwyaf trawiadol y beili mewnol yw ei faint anferth. Â’i arwynebedd tua ¾ acer, yn ei amgáu roedd chwe thŵr arall a dau borthdy enfawr . Oddi mewn i hynny, y bwriad amlwg oedd darparu cyfresi moethus o letyau. Cynlluniwyd y ddau borthdy i gynnwys nifer o ystafelloedd swyddogol mawreddog yn y cefn, digon tebyg i’r rhai a gwblhawyd yn Harlech. Ni chafodd porth y gogledd, ar yr ochr bellaf, ei adeiladu’n uwch na lefel y neuadd, gan adael yr ail lawr arfaethedig heb ei godi. Hyd yn oed fel y mae nawr, gyda’i bump agoriad anferth ar gyfer ffenestri, mae’n taflu ei gysgod dros y beili. Cynlluniwyd adeilad arall o’r un faint ar gyfer porth y de, ond ni chodwyd hwnnw erioed yn uwch na’i sylfeini. Bwriadwyd codi rhagor o adeiladau ar hyd ochrau’r beili, a fyddai wedi cynnwys neuadd, ceginau, stablau ac efallai ysgubor. Er bod peth tystiolaeth o’u bodolaeth i’w gweld ar wyneb y cysylltfur, does dim sicrwydd iddynt gael eu cwblhau.
Isod: golygfa gyffredinol o ochr ddwyreiniol y beili allanol ynghyd â thŵr y capel
Ni ddylai ymwelwyr anwybyddu’r capel bychan sydd yn y tŵr o’r un enw . Gyda’i do cromennog a’i ffenestri pigfain, mae’n un o orchestion y castell. Yn y tŵr hwn hefyd gwelir arddangosfa ddiddorol ar ‘Gestyll Edward I yng Nghymru’, ac ynddi ceir llawer o wybodaeth gefndirol am adeiladu’r castell ei hun.
Gall yr ymwelydd ddal i ofyn pam tybed y cynlluniwyd yr holl letyau moethus . Mewn gair, y bwriad oedd darparu’r llety roedd ei angen ar gyfer y brenin, a phe bai’n priodi eto, ei frenhines. Hefyd roedd ei fab, Tywysog Cymru’n prysur agosáu at oedran priodi. O ystyried maint y ddau lys, a’r angen i letya’r swyddogion brenhinol, ynghyd â’r cwnstabl a hyd yn oed siryf Môn, fe welir y rheswm dros faint y trefniadau domestig hyn yn eu gwir oleuni.
Isod: ochr ddwyreiniol y beili allanol a’r fynedfa i’r capel
Er iddo gael ei gynllunio ar raddfa mor fawr , erbyn 1298 roedd yr arian ar gyfer adeiladau Biwmares wedi’i ddihysbyddu. Roedd y brenin yn ymwneud fwyfwy â gwaith tebyg yng Ngwasgwyn a’r Alban. Er y cafodd peth gwaith adeiladu ei wneud yn ddiweddarach, glasbrint o gynllun na chafodd ei gwblhau yn llawn yw’r castell mewn llawer ffordd.
Ar y dde isod: un o dyrau porthdy’r de
[Jeff Thomas, 1995]
Gan fod y disgrifiad uchod yn rhoi eglurhad rhagorol o arwyddocâd hanesyddol Biwmares , mi geisiai i ddisgrifio fy argraffiadau personol o’r castell ar sail fy ymweliadau yn ystod 1994/95.
Mae Biwmares yn gastell arbennig. Cred rhai mai dyma’r castell prydferthaf yng Nghymru, tra bo eraill yn gwerthfawrogi ei gymesuredd perffaith bron. Y ddelwedd sydd gan y rhan fwyaf o bobl ohono yw darlun o elyrch yn nofio’n dawel ar ffos ddŵr y castell, a cherrig brith tyrau allanol gwych Biwmares yn gefndir iddynt. Dyma nodwedd drawiadol gyntaf y castell: ei brydferthwch allanol.
Er na chodwyd tyrau allanol mawr Biwmares cyn uched ag y bwriadwyd, maent yn dal yn drawiadol, â’u cryfder wedi’i danlinellu gan batrymau hardd y gwaith maen ar y muriau a’r tyrau allanol, sydd â’u lliwiau’n amrywio o lwyd tywyll i wyn. Mae’r rhan fwyaf o’r castell wedi’i amgáu â ffos ddŵr, a pharc gwyrdd yn gefndir iddi, gyda byrddau picnic. Mae heidiau o hwyaid ac elyrch yn ychwanegu at y darlun atyniadol, fel mae porthdy gwych y castell a’r bont bren sy’n arwain at y brif fynedfa. Felly gellir mwynhau cymaint o brydferthwch Biwmares cyn rhoi troed y tu fewn i’r castell!
Isod: golygfa o borthdy anorffenedig y gogledd o’r beili mewnol
Os yw’n wir fod tyrau allanol y castell yn fawr , enfawr yw’r unig air i ddisgrifio chwe thŵr mewnol Biwmares. Dim ond tŵr mawr William Marshall yng Nghastell Penfro a thŵr William ap Thomas yng Nghastell Rhaglan sy’n debyg i chwe thŵr mewnol enfawr Biwmares. Dim ond wedi mynd i mewn i’r porthdy y daw gwir faint y tyrau hyn yn amlwg, a dryslyd hefyd efallai. Yn ddryslyd gan fod cynllun consentrig y muriau a’r tyrau yn eu gwneud i edrych yn union fel y lleill wrth i chi wneud eich ffordd o gwmpas y beili. Dim ond y gwahaniaethau rhwng y porthdy blaen a’r porthdy cefn sy’n dweud wrthych ble rydych yn y beili allanol!
 |
Y drydedd nodwedd, a’r un rwy’n ei hoffi fwyaf ynglŷn â Biwmares, yw’r tramwyfeydd mewnol diddorol o fewn muriau’r beili mewnol. Biwmares a Chaernarfon yw’r unig ddau gastell yng Nghymru sy’n cynnig cyfle i ymwelwyr archwilio cyfran sylweddol o’r tramwyfeydd o fewn y muriau mewnol. Mae’r rhai yn Nghaernarfon yn fwy helaeth, ond y siawns yw na fydd tramwyfeydd Biwmares yn ferw o dwristiaid! Mewn geiriau eraill, mae Biwmares yn cynnig cyfle i ymwelwyr archwilio’r nodwedd hon mewn awyrgylch mwy hamddenol. Peidiwch ag anghofio’r capel bychan hardd wrth ddilyn y dramwyfa, man heddychlon i aros a myfyrio ar yr awyrgylch o’ch cwmpas.
I mi, y nodwedd arbennig olaf ynglŷn â Biwmares, yw’r golygfeydd anhygoel dros Afon Menai tuag at fynyddoedd Eryri yn y pellter – golygfa syfrdanol y gellir ei mwynhau o du mewn neu o du allan i’r castell. Er nad yw safle Biwmares mor ysblennydd â rhai o safleoedd cestyll eraill y Brenin Edward yng ngogledd Cymru, mae prydferthwch y castell a’r wlad oddi amgylch yn ddiamheuol. Cafodd Castell Biwmares ei ddynodi’n ‘Safle Treftadaeth y Byd’ gan ei fod yn cynrychioli gorchestwaith yn y grefft o adeiladu cestyll yr oesoedd canol. Mae’r ffaith iddo gael ei leoli ar un o safleoedd prydferthaf Cymru yn fonws, ac felly’n werth talu ymweliad ag o. Felly, yn eich brys i weld castell poblogaidd, twristaidd Caernarfon, ewch ychydig ymhellach i Fiwmares os am brofiad hollol unigryw o gastell!
