Castell Dolforwyn

 

uwchlaw pentref Dolforwyn, Powys, Canolbarth Cymru,
SO 153 950

Cyswllt at fap lleoliad Castell Dolforwyn

Hawlfraint y Ffotograffau (© 2002) gan Jeffrey L. Thomas

Uchod: gweddillion y tŵr dwyreiniol o gyfeiriad mynedfa arfaethedig y castell.
Ar y dde isod: Dolforwyn o gyfeiriad mynedfa fodern y castell.

[Cadw 1990; Butler 1990; Pounds 1991]

Saif Castell D olforwyn ar fryn coediog uwchlaw tir bras dyffryn Hafren, safle sydd mor heddychlon heddiw fel nad yw’n hawdd meddwl am y lle fel achos gelyniaeth wleidyddol neu frwydro. Cafodd ei godi rhwng 1273 a 1277 gan Llywelyn ein Llyw Olaf ar derfyn eithaf ei diriogaeth, yn edrych dros arglwyddiaeth Seisnig Trefaldwyn. Mae’r castell petryal yn sefyll ar ben cefnen sy’n cydredeg â dyffryn Hafren, a’i fwriad yn amlwg oedd gwarchod ffin dde-orllewinol Llywelyn. Pan ddechreuodd y Tywysog Llywelyn ei adeiladu, ysgrifennodd Edward I ato yn 1273, yn ei wahardd rhag codi’r castell. Atebodd y tywysog, gyda moesgarwch eironig, nad oedd angen caniatâd y brenin arno i godi castell ar ei dir ei hun. Cipiwyd Dolforwyn, serch hynny, gan Roger Mortimer yn 1277, wedi gwarchae a barodd bythefnos, a’i gyflwyno i deulu pwerus y Mortimeriaid. Atgyweiriwyd y castell am rai blynyddoedd, ond erbyn 1398 roedd yn adfail. Cafodd egin-dref Llywelyn ar y gefnen i’r gorllewin o’r castell ei diddymu gan y Saeson, gan nad oeddynt eisiau cystadleuaeth â Threfaldwyn. Yn lle hynny, sefydlodd Roger Mortimer y Drenewydd yn 1279 ar safle mwy addas gerllaw.

Isod: golygfa o’r fynedfa orllewinol i’r gorthwr.

Mae safle’r castell ar gopa cefnen ac iddi lethrau serth yn rhedeg o’r gogledd-orllewin i’r de-ddwyrain uwchlaw dyffryn Hafren . Oddi yno gellir gweld ymhell ac eithrio i’r dwyrain. Fe saif y castell ar lwyfan o graig hyd at 6m uwchlaw gwaelod y ffosydd sy’n marcio’i derfynau i’r gogledd-ddwyrain a’r de-orllewin . Y tu allan i ffos y gogledd-ddwyrain , sy’n 30m o led a 3m islaw lefel naturiol y tir, mae clawdd 1.5m o uchder, tra bo clawdd y de-orllewin yn gulach. Roedd pont godi’n arwain o’r dref dros ffos y de-orllewin at borth syml drwy’r cysylltfur . Mae’r llwybr modern tuag ato’n mynd heibio rhai llwyfannau bychan a allai farcio safleoedd adeiladau’r dref Gymreig. Mae’r ramp mynediad dros dro a godwyd dros weddillion y mur gogleddol yno i hwyluso’r gwaith o gloddio ac atgyfnerthu.

Mae cynllun y castell, a ddaeth i’r golwg gan fwyaf er 1980, yn cynnwys cysylltfur petryal yn amgáu gorthwr mawr petryal yn y pen gorllewinol, a thŵr crwn yn y pen arall. Mae’r ddwy nodwedd yn rhan o’r cylchlin, gyda’r gorthwr ger y mur deheuol ble mae siafftiau’r geudai i’w gweld. Safai’r prif feili rhwng y gorthwr a’r tŵr crwn ar ben arall y castell, ond roedd y gorthwr ei hun wedi’i osod mewn clos bychan gyda’r brif fynedfa’n arwain i mewn iddo. Mae’n debyg mai ar y llawr uchaf, am resymau diogelwch, roedd y fynedfa i’r adeilad, yn ôl yr arfer gyda gorthyrau, gyda drws wedi’i ychwanegu ar y llawr isaf yn ddiweddarach. Mae ffos nadd yn rhedeg ar draws y castell o’r gogledd i’r de.

Isod: golygfa gyffredinol o du mewn i Gastell Dolforwyn o’r gorllewin.

Dangosodd y cloddio fod gwaith atgyweirio wedi’i wneud ar waith maen y gorthwr a bod y tu fewn wedi’i rannu. Gall hynny gynrychioli’r gwaith adnewyddu a wnaed wedi i’r castell syrthio i ddwylo’r Saeson, gan y gellir cysylltu rhai o’r deunyddiau â ffynonellau oedd eisoes yn nwylo’r Saeson. Dengys y cloddio hefyd fod rhesi o adeiladau’n sefyll ar hyd ymylon deheuol a gogleddol y beili. Yma ac acw ar hyd y safle, daethpwyd o hyd i belenni carreg, a all fod wedi’u tanio o beiriannau gwarchae’r Saeson yn 1277.

Isod: golygfa allanol o gysylltfur de-orllewinol Castell Dolforwyn.

 

Bu llawer o sôn am gynllun afreolaidd y cestyll Cymreig, gyda’r tirwedd oddi tanynt yn ddylanwad amlwg. Yn achos nifer o’r cestyll Cymreig a godwyd yn y 13 eg ganrif, does dim golwg o’r tyrau murol a’r porthdai wedi’u gosod yn drefnus a gofalus, fel sydd i’w gweld yn y cestyll a godwyd gan y Saeson yn yr un cyfnod. Mae Dolforwyn yn rhan o’r un traddodiad brodorol Cymreig, gan nad oes porthdy yno, dim ond porth â gorthwr yn ei warchod, yr un drefn a welir hefyd yn ddiau yng nghestyll Normanaidd de Cymru. Dim ond un hefyd o’r tyrau sy’n sicr yn dŵr murol. Mae gorthwr petryal yn nodwedd anarferol ymysg y cestyll a godwyd yn niwedd y 13 eg ganrif ym Mhrydain. Mae cynllun castell Cymreig Dinas Bran, uwchlaw Llangollen, a adeiladwyd o bosib yn y 1260au, yn debyg iawn i Ddolforwyn. Yno hefyd mae gorthwr petryal, er bod y fynedfa islaw iddo ar ffurf porthdy â dau dŵr iddo.

Isod: safle’r dref yn Nolforwyn, eto heb ei chloddio, ar ochr orllewinol y castell.

Ffotograffau ychwanegol o Gastell Dolforwyn

 

 

 

Golygfa o du mewn y tŵr cromfannol yn Nolforwyn, a gloddiwyd yn ddiweddar.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Golygfa o du mewn i’r rhes o adeiladau ar ochr ogledd-ddwyrain Castell Dolforwyn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Golygfa o’r cysylltfur gogleddol yn Nolforwyn.

 

 

 

 

 

 

Jeffrey a Parthene Thomas yng Nghastell Dolforwyn (Ebrill 2002).