Castell Morgraig

ar gefnen Cefn Onn uwchlaw Caerdydd, de Cymru
ST 160 843

Hawlfraint y ffotograffau (© 2002) gan Laurie Oliver

Dirgelwch Morgraig

Hawlfraint (©) Dylan Iorwerth a Cadw.

Mewn erthygl yn y cylchgrawn Etifeddiaeth y Cymro, a gyhoeddir gan Cadw, mae Dylan Iorwerth yn egluro sut mae Jack Spurgeon yn datrys dirgelwch ynglŷn â sefydlu Castell Morgraig, ger Caerdydd.

“Haf 1895 oedd hi pan ddaethon nhw ar ei draws wrth straffaglu trwy’r tyfiant uwchlaw’r briffordd o Gaerffili i Gaerdydd. Mae’n bosib y byddai’r adeiladau dinesig newydd yno yn disgleirio yn y pellter wrth i’r criw bychan o ddynion archwilio’r adfeilion 800 troedfedd i fyny ar Graig Llanishen.

Ar y dde isod: darlun dychmygol o Gastell Morgraig

John Ward, archeolegydd cynnar o Amgueddfa Caerdydd oedd yr arweinydd. Roedd wedi clywed yr hanesion lleol am hen gaer Frythonig ac wedi gweld y mapiau gyda’r siâp hirsgwar od. Yn llawn o ysbryd menter y Fictoriaid, nhw oedd yn cyntaf i geisio datrys dirgelwch Morgraig.

Wyth mlynedd yn ddiweddarach, Ward oedd yn goruchwylio’r cloddio ar ochr ddeheuol y gefnen sy’n codi uwchlaw Caerdydd. Erbyn 1905, ar y cyd ag archeolegydd a hanesydd, roedd wedi cyhoeddi erthygl sy’n dangos yn glir mai castell o’r 13 eg ganrif yw Morgraig.

 

Doedd y broblem ddim wedi’i datrys chwaith. Ers hynny bu dadlau brwd ynghylch yr adfeilion. Pwy a adeiladodd y castell a pham? Ai caer Gymreig herfeiddiol olaf oedd hi neu ragflaenydd y goncwest derfynol? A yw’n lle pwysig yn hanes Cymru neu’n ddim ond troednodyn dinod?

Yn 1997, fwy na chanrif ers i John Ward gerdded dros adfeilion y waliau, fe fu erthyglau papur newydd yn hawlio mai dyma leoliad yr Alamo Cymreig, ble cafodd gwrthryfel gan y Cymry ei chwalu yn 1315.

Mae’n ymddangos fod llawer o ynni gwleidyddol ac emosiynol yn cael ei fuddsoddi yn yr ychydig gerrig sydd ar ôl. Fe sefydlwyd cymdeithas hyd yn oed gyda’r nod o ddiogelu Castell Morgraig. Mae’r castell yn sefyll ar hollt, yn union fel yr oedd yn y 13 eg ganrif pan oedd ar y ffin rhwng Senghennydd Gymreig a Morgannwg Seisnig.

Gwaith Cadw a’r gweithwyr proffesiynol yn y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru yw ceisio sefydlu’r ffeithiau, anwybyddu emosiwn a cheisio dod i benderfyniad diogel sydd y tu hwnt i amheuaeth resymol.

Dyw Jack Spurgeon ddim yn edrych fel ditectif. Mae’n ymddangos braidd fel rhyw ewythr caredig tra’n eistedd wrth ei ddesg fechan, gan estyn am lyfr neu’i gilydd a bodio trwy’r tudalennau. Mae wedi ymddeol bellach o’i waith yn un o ymchwilwyr y Comisiwn Brenhinol ac mae’n gweithio o’i gartref ar gyrion Aberystwyth. Os yw wedi ymddeol, mae’r brwdfrydedd yn aros, wrth i’w fys grwydro hyd fapiau o gestyll hynafol, gan ddangos tŵr anghyffredin yma a nodweddion anarferol acw. Dyma’r brwdfrydedd a wnaeth iddo roi’r gorau i ddysgu hanes yn y 60au er mwyn cyfuno diddordeb a gwaith. Mae arlliw o acen Caerdydd yn ei lais wrth iddo siarad am ei waith ym Morgraig.

Ditectif hanes yw hwn. Mae’r Comisiwn wedi gofyn iddo sgrifennu’r adroddiad ar y castell a aeth yn angof, stori ddatrys mewn carreg a morter. Fe fydd ei adroddiad yn cloriannu’r holl dystiolaeth o blaid ac yn erbyn. Mae gan nifer o haneswyr proffesiynol ac amatur farn wahanol am Gastell Morgraig. Jack Spurgeon yw’r un sy’n gorfod nithio’r gwir a’r gau. Fe fydd yn dweud mai gwaith arglwydd Eingl-Normanaidd yw’r castell fwy na thebyg … ac fe fydd nifer o bobl yn anghytuno. ‘Mae’n gastell od iawn,’ meddai gan ysgwyd ei ben, yn lled anobeithio a lled fwynhau’r her. ‘Dyw e ddim yn ddu a gwyn. Mae yna nodweddion hynafol, er enghraifft, a fyddai’n awgrymu ei fod yn Gymreig ond does dim ffosydd, sydd fel arfer yn un o nodweddion mwyaf trawiadol y cestyll Cymreig yng ngogledd Cymru. Od iawn.’

Castell Morgraig wedi ei godi gan arglwyddi Eingl-Normanaidd de Clare o Forgannwg, rhywbryd ar ôl 1243 a chyn 1267, pan gafodd Morgraig ei adael heb ei orffen wrth iddynt drechu arglwydd Cymreig olaf yr ardal a dechrau adeiladu castell yng Nghaerffili gerllaw.

Mae Jack Spurgeon yn estyn am ei adroddiad, yn barod i gyflwyno’r achos. Mae bron fel ymchwiliad troseddol – mae yna gliwiau ac olion bysedd hanesyddol – ond rhaid i dditectif archaeolegol edrych am ysgogiad a chyfle hefyd, cyn pwyso a mesur popeth.

Y Cliwiau

Ar y dde isod: golygfa o gynllun Castell Morgraig

 

Mae’r cliwiau cyntaf ym Morgraig yn y meini. Fe ddioddefodd dipyn ers cael ei ddadorchuddio gan Ward a’i bartneriaid fwy na 90 mlynedd yn ôl. Roedd y muriau caerog wedi diflannu a, gwaetha’r modd, wnaeth y ditectifs cynnar hynny ddim diogelu’r hyn oedd ar ôl ac arbed y cliwiau.

 

 

 

Roedd siâp waliau’r castell a’r trwch ychwanegol ar un ochr i bob tŵr yn arwydd o risiau tro, yn codi o’r llawr cyntaf. Daethpwyd o hyd i feini a fyddai wedi ffurfio pileri canol grisiau o’r fath – darganfyddiad anarferol os oedd y castell yn un Cymreig. Fel gydag achosion troseddol, gall yr hyn sydd heb ei ganfod fod yr un mor bwysig â’r hyn sy’n dod i’r fei. Ym Morgraig, doedd dim tystiolaeth o ddeunydd to nac olion adeiladau mewnol. Prawf pendant, felly, na chafodd erioed ei orffen.

Ac yna, ffactor allweddol – llawer o feini cerfiedig, i addurno ymylon drysau a ffenestri, oedd eto yn nodwedd fwy Seisnigaidd. Ond tystiolaeth fforensig a ddaeth â phrawf y tu hwnt i amheuaeth.

Isod: sylfaen tŵr crwn yng Nghastell Morgraig

Roedd y meini cerfiedig yn rhai o fath arbennig ac unigryw – carreg Sutton, craig olau yn frith o ddarnau o garreg wen, a honno’n cael ei chloddio ym Mro Morgannwg yn yr Oesoedd Canol. Does dim posib ei chamgymryd meddai Jack Spurgeon, gyda sicrwydd Maigret.

Mae nodweddion eraill yn fwy dryslyd. Roedd tyrau ar bob cornel yn ddatblygiad o’r 13 eg ganrif nad oedd brin wedi’i fabwysiadu mewn cestyll Cymreig, ond mae’r prif dŵr – y gorthwr – a’r fynedfa ddisylw yn y mur yn nodweddion hynafol, sy’n awgrym o blaid y Cymry. Yn y diwedd mae’r ditectif yn troi’n ôl at y defnydd o garreg Sutton.

Y Cyfle

‘Dim ond o un chwarel anghysbell gerllaw Ogwr a Southerndown y deuai carreg Sutton,’ meddai Jack Spurgeon, gan dynnu ar ei sigarét. ‘Roedd y garreg dda wedi ei dihysbyddu erbyn diwedd yr Oesoedd Canol.’ Fe ddaw arwyddocâd hyn yn amlwg wrth astudio hanes gwleidyddol y cyfnod. Roedd Castell Ogwr ar y gwastatir ffrwythlon dan reolaeth gadarn y teulu de Clare. Fyddai gan arglwydd Cymraeg Senghennydd ddim siawns o gael ei ddwylo ar garreg mor brin.

Ar ôl 1243 fe fyddai tensiwn parhaol rhwng yr Eingl-Normaniaid ar dir isel yr arfordir a’r arglwyddi Cymraeg a oedd yn dal eu gafael ar yr ucheldiroedd ble mae cymoedd Rhondda, Taf a Rhymni heddiw.

Yn 1245 a 1246 roedd Richard de Clare wedi meddiannu arglwyddiaethau Glynrhondda a Meisgyn, gan adael dim ond Senghennydd yn nwylo’r brodorion. Erbyn 1257 fe ddaeth pwysau ychwanegol wrth i Lywelyn ein Llyw Olaf estyn ei ddylanwad i lawr hyd at ffiniau Morgannwg gan fentro i mewn iddi hyd yn oed i ddinistrio castell de Clare yn Llangynwyd. ‘Mae’n hollol amhosib y byddai arglwydd Cymraeg Senghennydd wedi gallu cael ei ddwylo ar garreg Sutton ar gyfer Morgraig yn ystod y cyfnod yma,’ meddai Jack Spurgeon eto. ‘Mae’n amhosib hefyd y byddai Richard de Clare wedi gadael iddo godi castell mewn lle o’r fath, yn edrych i lawr ar Gaerdydd.’

Yr Ysgogiad

‘Mae’r dyddio’n allweddol,’ meddai Jack Spurgeon, gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad yn ei lais. Rhaid i’r ditectif fod yn drwyadl wrth greu trefn amser, gan ddefnyddio cyfuniad o gliwiau cadarn a thystiolaeth yr amgylchiadau.

Mae Jack Spurgeon wedi cyfyngu’r dewis i’r 24 mlynedd hyd at 1267, pan oedd arglwyddi’r teulu de Clare ac arglwydd Cymreig Senghennydd yn wynebu ei gilydd o boptu’r union grib lle saif Morgraig. Ar y cyfan, mae’n ffafrio’r Iarll Richard a dyddiad rhwng 1243 a 1262.

Mae cefnogwyr y ddamcaniaeth Gymreig yn dweud y byddai’r castell wedi’i godi i fygwth Caerdydd. Ni fyddai de Clare wedi caniatáu’r fath haerllugrwydd, meddai ei gefnogwyr. Bwriad y castell, meddent hwy, oedd amddiffyn y briffordd i Gaerdydd a dal ysbeilwyr ar eu ffordd oddi yno.

Ail Ddirgelwch Morgraig

Ar ymweliad â’r castell yr oedd Jack Spurgeon a’i gydweithwyr pan ddechreuon nhw ddilyn ffosydd ar hyd y grib.

‘Fe aethon ni i archwilio’r rheiny ymhellach.’ meddai. ‘Fe ddaethon ni o hyd i adfeilion dau dŵr carreg bychan, tua milltir i’r dwyrain, yn agos at ei gilydd. Fe ddaethpwyd o hyd i drydydd yr ochr arall i afon Taf, ger Llantrisant. Dydyn nhw erioed wedi cael eu cloddio.’

Mae’r tyrau ar y llinell derfyn rhwng Morgannwg a’r tiroedd Cymreig, yn union fel Morgraig, - i Jack Spurgeon, mae hynny’n awgrym arall mai canolfan i farchogion oedd Castell Morgraig, gyda rhes o dyrau gwylio. ‘Rwy’n hollol siŵr mai castell y Saeson yw hwn,’ meddai Jack Spurgeon, gan bwyso’n ôl eto yn ei gadair.”

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yng nghylchgrawn Cadw, Etifeddiaeth y Cymro, ac yna ymddangosodd fersiwn Saesneg, trwy ganiatâd Cadw, yng nghylchlythyr y Castle Studies Group, Rhif 11 (1997-98).


Darparwyd y map isod o’r safle gan Laurie Oliver

 

 

Os ydych eisiau ymchwilio ymhellach i’r dirgelwch, defnyddiwch y cyswllt at wefan Project Blwyddyn 7, Castell Morgraig:
http://www.stcenydd.org.uk/history/morgraig/