Castell Penfro

Yn nhref Penfro, Sir Benfro, de-orllewin Cymru
Cyswllt at fap lleoliad Castell Penfro.

Hawlfraint (©) yr holl ffotografau gan Irma Hale

Uchod: y Porth Allanol a’r Barbican yng Nghastell Penfro

[King 1978; King a Cheshire 1982]

Cryfder dihafal y Castell Normanaidd enfawr hwn, wedi’i leoli ar gefnen uchel rhwng dwy gilfach lanw, a sicrhaodd na chafodd erioed ei gipio gan y Cymry. Dewiswyd y safle strategol hon, ar ffordd bwysig, yn gynnar yn ystod ymosodiadau cyntaf y Normaniaid ar dde-orllewin Cymru, pan sefydlwyd y castell gan Roger de Montgomery yn 1093, a safodd yn gadarn wedi hynny yn erbyn holl wrthymosodiadau’r Cymry. Isod: golygfa o’r gogledd-ddwyrain yn dangos y Porthdy Mawr (chwith), Tŵr Porth y Gogledd, Bastiwn y Santes Ann a bloc y Neuadd (dde)

Cynyddodd pwysigrwydd strategol P enfro’n fuan, gan mai oddi yma yr hwyliodd y Normaniaid ar ddechrau eu hymgyrchoedd i Iwerddon. Yn 1189 daeth y castell i ddwylo William Marshal, ac ef, yn ystod y 30 mlynedd nesaf, a drodd y castell pridd a choed yn gaer enfawr o waith maen. Y rhan gyntaf i’w hadeiladu oedd y beili mewnol a’i orthwr crwn godidog (ar y dde), sy’n haeddiannol enwog oherwydd ei ddyddiad cynnar, ei 22m a mwy o uchder a’i do cromennog rhyfeddol. Ar y llawr cyntaf roedd y fynedfa wreiddiol, a grisiau allanol yn arwain ati; yn ddiweddarach y gwnaed y fynedfa bresennol ar y llawr isaf. Roedd pedwar llawr yn y gorthwr, a grisiau tro’n arwain atynt ac at y bylchfuriau uwchben. Rhoddwyd tyllau mawr sgwâr ar y tu allan i ben uchaf y mur i ddal llwyfan ymladd pren. Pan fyddai ymosodiad ar y castell, gellid gosod y llwyfan fel amddiffynfa ychwanegol, y tu allan i’r bylchfuriau ond ymhell uwchben yr ymosodwyr.

Isod: y Porthdy Mawr o gyfeiriad y Beili Allanol

Yn amgáu’r gorthwr roedd cysylltfur y beili mewnol , ac i’r de-orllewin safai’r porth mawr ar ffurf pedol, nad oes ond ei sylfeini ar ôl bellach, yna i’r dwyrain roedd tŵr crwn cadarn gyda charchar yn ei waelod. Mur tenau yn unig oedd ei angen ar hyd ymyl y clogwyn; roedd twred gwylio bychan ar un pen ac ar y llwyfan carreg sgwâr ar yr ochr ogleddol roedd peiriant taflu enfawr i amddiffyn y castell rhag ymosodiad o’r môr. Roedd yr adeiladau domestig o boptu’r beili mewnol yn cynnwys neuadd William Marsial a lletyau preifat. Wedi gwella’r adeiladau hyn, codwyd rhagor yn niwedd y 13 eg ganrif, pan godwyd y Neuadd Fawr newydd gyda’r muriau enfawr yn pontio dros gornel y de-ddwyrain er mwyn amgáu’r fynedfa i ogof fawr yn y graig islaw, a allai fod wedi gweithredu fel tŷ cwch. Ar yr un pryd, ychwanegwyd adeilad mawr unllawr ger y gorthwr i wasanaethu fel llys sirol. Erbyn y cyfnod hwn roedd y castell wedi dod i feddiant teulu de Valence; yna i aeth i ddwylo’r teulu Hastings o 1324 hyd at 1389, wedi hynny aeth y castell yn ôl i berchenogaeth y goron. Isod: Tŵr Porth y Gorllewin a Rhodfa’r Mur (chwith) a Rhodfa’r Mur rhwng Tŵr Porth y Gogledd a Bastiwn y Santes Ann, gyda bloc y Neuadd yn y pellter (dde).

   

Mae’n bosib fod llawer o’r gwaith adeiladu ar y beili allanol hefyd wedi’i wneud gan William Marshal yn nechrau’r 13 eg ganrif , a’r un yw cynllun yr amddiffynfeydd fel y maent heddiw â’r adeiladwaith gwreiddiol. Er hynny, mae cyflwr y gwaith hwn, sy’n edrych bron yn berffaith, braidd yn gamarweiniol, gan i raglen gadwraeth drylwyr gael ei chyflawni arno yn y 19 eg ganrif a dechrau’r 20 fed ganrif.

Isod: Tŵr Mawr William Marshal (chwith) o gyfeiriad rhodfa’r mur.

Roedd y rhes wych o dyrau crwn , bastiwn y gogledd-ddwyrain a phorthdy rhyfeddol y de yn gwneud amddiffynfeydd y beili allanol bron yn anorchfygadwy. Roedd cilddorau ar bob ochr, gyda Bastiwn y Santes Ann ar un ochr a Thŵr Monkton ar y llall, yn eu hamddiffyn, ond mae’r prif borthdy, gyda’i ddau borthcwlis, ei ddrysau cadarn, tri rhyngdwll, neu dyllau mwrdwr, yn y to, a’i res o agennau saethu, yn un o’r goreuon a’r cynharaf o’i fath. Mae carchar yng ngwaelod Tŵr y Sgîl-borth gorllewinol, ac yn y ddau dŵr porth mae llawr isaf a dau lawr uwch gyda’r grisiau tro, sy’n arwain atynt, yn troi’n groes i’w gilydd. Mae drysau’n arwain o’r ystafelloedd uwch at rodfa’r mur. Porth â dau dŵr yw’r porthdy yn ei hanfod, gydag un o’r tyrau wedi’i symud ymhellach ar hyd y cysylltfur er mwyn cadw’r fynedfa letraws yn glir; ac mae’r barbican gwych ar ffurf hanner cylch yn amddiffynfa ychwanegol.

Isod: adfeilion mewnol yr Hen Neuadd Normanaidd yng Nghastell Penfro.

Rhoddwyd y castell gan y goron i feddiant cyfres o denantiaid tymor byr , a dechreuodd ddadfeilio’n sylweddol. Yn 1405 rhoddwyd arfau ar frys i Francis Court iddo amddiffyn y castell yn erbyn gwrthryfel Owain Glyn Dŵr. Yna aeth y castell i ddwylo Siasbar Tudur, iarll Penfro, ac yno y ganed ei nai Harri, y Brenin Harri VII wedi hynny. Mae’r ystafell yn Nhŵr Harri VII, lle cafodd y brenin ei eni yn ôl traddodiad, yn lle annhebygol iawn i neb roi genedigaeth, a’r gobaith yw bod ei fam, y Fonesig Margaret Beaufort oedd yn weddw, wedi derbyn rhyw gymaint mwy o barch.

Ar ddechrau’r Rhyfel Cartref, c yhoeddodd P enfro gefnogaeth y dref i’r Senedd, ond yn 1648 dyma’r maer, John Poyer, yntau’n anfodlon am na dderbyniodd wobr, yn ymuno â grŵp annheyrngar o Bengryniaid, nad oeddynt am gael eu dadfyddino. Daeth Cromwell ei hun yno i osod gwarchae ar y castell, a chwympodd ymhen saith wythnos dim ond wedi i’r cyflenwad dŵr gael ei dorri a mintai o filwyr â chanonau gwarchae gyrraedd a dechrau tanio. Wedi’r fath her, dinistriodd Cromwell y barbican a rhan flaen pob un o’r tyrau er mwyn rhwystro’r castell rhag cael ei ddefnyddio’n filwrol fyth eto.

Isod: Ogof Wogan yng Nghastell Penfro.

 

Mae rhannau o amddiffynfeydd tref Penfro, a redai i’r de o Dŵr Porth y Gorllewin ac i’r dwyrain o D ŵr Porth y Gogledd, yno o hyd. Rhedai’r llinell ogleddol ar hyd Millpond Walk fel y mae heddiw. Ychydig sydd ar ôl o’r rhan agosach at y castell, ond ymhellach ymlaen mae rhai adrannau gyda’r bylchau’n dal yn weladwy, er eu bod wedi’u cau wrth i’r muriau gael eu codi’n uwch, pan adeiladwyd grisiau cyfochrog i roi mynediad i’r tai trefol oddi mewn. Yn wreiddiol roedd ddarn o fur sydd bellach wedi’i dorri yn cysylltu’r tŵr crwn bychan tua’r gogledd-ddwyrain â Thŵr Barnard, tŵr trillawr trawiadol gyda rhag-adeilad uwchben ei fynedfa, a phwll pont, porthcwlis a phorth yn ei amddiffyn. Mae cromen y to’n gyfan, ac roedd yr holl adeilad, gyda’i le tân a’i geudy, yn uned amddiffynnol gadarn, bron yn hunangynhaliol; roedd angen hynny’n mae’n debyg oherwydd ei fod yn sefyll ar ei ben ei hun, ym mhen gogledd-ddwyreiniol y dref, tua hanner milltir o’r castell.

Isod: Tŵr Harri VII (yn y canol) a Thŵr y Sgîl-borth (dde) o gyfeiriad y Tŵr Mawr.

Mae’r mur (nad oes modd mynd ato) yn parhau i’r de o Dŵr Barnard i Borth y Dwyrain a safai gynt dros y Stryd Fawr. Yr unig ddarn arall o’r mur sydd ar ôl yw rhan o dŵr yn Goose Lane a dau dŵr crwn bychan ar yr ochr ddeheuol. Maent yn rhan o fur y dref a ailadeiladwyd ac mae tŷ haf diweddar wedi’i godi ar ben un ohonynt. Roedd muriau deheuol y dref yn sefyll ar ymyl cors wastad a fyddai’n forfa heli mae’n debyg yn y 13 eg ganrif. Gwelir rhan o Borth y Gorllewin gyferbyn â mynedfa’r castell. Mae’n debyg bod muriau’r dref, sy’n denau braidd o’u cymharu â lleoedd eraill, yn rhai cynnar sy’n perthyn i’r un cyfnod â’r gwaith a wnaeth William Marshal ar y castell yn niwedd y 12 fed ganrif neu ddechrau’r 13 eg ganrif.


gan Jeff Thomas 1994

Maint a chryfder safle c astell mawr Penfro sy’n gwneud argraff ar rhywun . Un o gadarnleoedd y Normaniaid yw Penfro, yn dyddio’n ôl i gyfnod Gwilym Goncwerwr, er hynny perthyn i’r 13 eg ganrif mae’r rhan fwyaf o’r castell. Yn hanesyddol, mae’n debyg mai â dau o arglwyddi pwerus y gororau, Richard de Clare a William Marshal, y cysylltir y castell fwyaf, ill dau yn ieirll grymus ym Mhenfro. Cododd eu gormes ddidostur gasineb chwerw ymysg y Cymry lleol. Mae castell Penfro’n enwog hefyd fel man geni Harri Tudur, y brenin Harri VII wedi hynny. Yno gwelir arddangosfeydd, yn cynnwys fideo, sy’n olrhain hanes y castell a’i berchenogion, yn ogystal ag arddangosfa ar y Brenin Harri.

Aethom i mewn i’r castell trwy dŵr enfawr y porthdy a’i faint yn gwneud argraff ar unwaith. Mae muriau uchel Penfro’n cysylltu cyfres o dyrau sy’n sefyll yn gyfan o hyd. Mae tyrau’r castell a’r muriau’n gyflawn oherwydd yr ymdrechion helaeth a wnaed i’w hadfer. Mae’r beili yng nghanol y castell wedi’i orchuddio â phorfa las gyda meinciau eistedd. I egluro pa mor fawr yw’r beili, meddyliwch y gallai Castell Harlech yn gyfan mae’n debyg gael ei osod yn daclus o fewn beili castell Penfro!

Isod: Rhodfa’r Mur rhwng Tŵr Harri VII (y tu blaen) a Thŵr Porth y Gorllewin (ymhellach yn ôl).

 

Mae dringo i ben tyrau castell Penfro yn caniatáu i ymwelwyr gerdded ar hyd rhannau o’r mur. Er bod Tŵr Harri, a enwyd ar ôl y Brenin Harri VII, a’r Neuadd Ogleddol, yn adeiladau cyfan, trawiadol, gorthwr anferth William Marshal sy’n taflu ei gysgod dros Gastell Penfro. Adeiladwyd y gorthwr gan Marshal yn 1200, a dyma fyddai lloches olaf y milwyr a fyddai’n amddiffyn y castell. Mae’r muriau’n 19 troedfedd o led ar waelod y gorthwr, ac yn codi i 75 troedfedd, gyda chromen garreg yn do, a osodwyd fel canolbwynt i goron driphlyg o barapet a thwred. Mae’r gorthwr bron ddwywaith maint y tyrau trawiadol yng Nghonwy. Wedi gweld dau ddwsin a mwy o gestyll yng Nghymru a Lloegr dros y ddwy flynedd ddiwethaf, does gan yr un ohonynt ddim sy’n fwy trawiadol na gorthwr mawr William Marshal ym Mhenfro. Mae’r olygfa o’r wlad oddi amgylch o ben y gorthwr yn tanlinellu safle amddiffynnol ragorol y castell, sy’n dominyddu’r tirwedd o bob cyfeiriad. Er mai dyma’r ddringfa hwyaf ac anoddaf yn ystod y gwyliau, roedd yr olygfa o ben y gorthwr yn fwy na digon o wobr am yr ymdrech!