Castell y Bere

I’r G o Abergynolwyn, Gwynedd, gogledd-orllewin Cymru
SH 669086

Hawlfraint y Testun (1996) gan Lise Hull
Hawlfraint y Ffotograffau (© 2004) gan Jeffrey L. Thomas

Uchod: Golygfa o’r castell o bell.
Isod: y fynedfa fodern i’r castell

Cestyll Tywysogion Cymru yw’r lleiaf adnabyddus a’r rhai a werthfawrogir leiaf o blith holl gestyll Cymru. Eto, maent yr un mor bwysig â chestyll y cyfnod Normanaidd ac wedi hynny pan godwyd caerau anferth o gerrig i ddarostwng a chodi ofn ar bobl Cymru. Roedd tebygrwydd a gwahaniaethau pendant hefyd rhwng cestyll Cymru a chestyll y Normaniaid a’r Saeson. Er hynny, roedd eu swyddogaeth yn ymwneud llai â mawrygu’r arglwydd a gormesu’r bobl a mwy fel cadarnleoedd lle gallai’r arglwyddi brodorol amddiffyn eu deiliaid rhag cyrchoedd y gelyn. Roedd adeiladwaith y cestyll Cymreig yn tueddu i fod yn symlach na’r rhai Seisnig, yn bennaf oherwydd prinder cymharol yr arian oedd ar gael ar gyfer tywysog Cymreig (yn arbennig felly o’i gymharu â’r arglwyddi Eingl-Normanaidd a allai fforddio i gyflogi’r goreuon a’r mwyaf profiadol o blith seiri maen a gweithwyr y cyfnod). Roedd y cestyll Cymreig er hynny’n ateb y diben, yn herio’n eofn fel yr oeddynt dra-arglwyddiaeth y mewnfudwyr Seisnig.

Isod: golygfa, o gyfeiriad y Tŵr Canol, o’r fynedfa i’r castell, y Tŵr Crwn a’r ffynnon.

Castell Cymreig sy’n cael ei anwybyddu weithiau gan ymwelwyr yw Castell y Bere, a fu unwaith yn gaer sylweddol, a adeiladwyd gan Lywelyn ap Iorwerth, neu Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd, yn nechrau’r 13 eg ganrif, ac yntau’n sefyll ar y fath safle odidog, nodweddiadol Gymreig! Wedi’i amgylchynu gan dirwedd llwydlas tywyll bygythiol llethrau Cadair Idris a’r mynyddoedd o’i amgylch, fe saif gweddillion Castell y Bere ger pentref Abergynolwyn tua 10 milltir i’r de-orllewin o Ddolgellau, ymhell oddi wrth y prif lwybrau cyfathrebu ar draws Cymru, ar ben craig wastad â’i llethrau’n serth, mewn safle berffaith i gadw gwyliadwriaeth dros lawr y dyffryn islaw. Mae’r daith ar hyd y gilffordd fechan sy’n arwain at y safle yn teimlo’n ddiddiwedd, ond mae’r olygfa fendigedig o Gadair Idris, yn ddigon o wobr ynddi ei hun. Yn ôl y chwedl, pe baech yn treulio noson ar y mynydd, byddech yn deffro’r bore wedyn naill ai’n fardd neu yn wallgofddyn!

 

Isod: Tramwyfa drwy’r cysylltfur gerllaw Tŵr y De.

 

Y syndod yw, er bod Castell y Bere bellach yn adfail trist, ei fod unwaith yn safle caer gadarn a gwych. Heddiw, mae llethr hir y llwybr tuag at borth y castell yn ymddangos yn ddiddiwedd bron, ond wrth fynd heibio’r tro olaf, gwelwch yr adeiladwaith carreg hynafol yn codi o’ch blaen, yn eich denu ymlaen i’r beili mewnol. Yr hyn a welwch gyntaf wrth ddynesu at y castell yw’r fynedfa gymhleth a chywrain, gydag adfeilion ei hamddiffynfa, sef y barbican wych a safai uwchben ffos nadd ddofn a chyfres o bontydd pren. Mae gweddillion yr adeiladwaith hwn i’w gweld o hyd, a gellir mynd i mewn i’r barbican bellach trwy ddringo cyfres fer o risiau pren.

Unwaith yr ewch i mewn i’r castell ei hun , efallai byddwch mewn tipyn o benbleth, gan fod amlinelliad y safle’n anodd i’w weld os nad ewch i fyny i dir ychydig yn uwch. Fel y cestyll Cymreig eraill, mae Castell y Bere’n dilyn ffurf y llwyfandir creigiog oddi tano, fel bod ei gynllun cyffredinol yn hirgul, yn drionglog bron, ond heb ochrau llinellol. Mae’r muriau o amgylch y castell yn isel a’u hadeiladwaith yn weddol llac, ac ni fyddant wedi gallu gwrthsefyll gwarchae trwm. Er hynny, byddai safle’r castell a’r nifer o dyrau cadarn o’i fewn wedi cydbwyso unrhyw ddiffyg cryfder ar ran y muriau.

 

Isod: Golygfa gyffredinol o’r beili a’r Tŵr Canol o gyfeiriad Tŵr y Gogledd.

Ychydig y tu hwnt i’r porth, mae gweddillion diddorol yr hyn a fu’n dŵr crwn enfawr , a osodwyd yno i amddiffyn y brif fynedfa i’r castell. Mae ffynnon y castell hefyd i’w gweld yn y rhan hon o’r beili, gyda’i hadeiladwaith anarferol sy’n llawer mwy na’r ffynhonnau a welir yn y rhan fwyaf o gestyll. Roedd y ffynnon hon, yn ôl y sôn, yn cynnwys llawer o drysorau archaeolegol megis gwaith lledr a darnau o jygiau ceramig. Hyd yn oed heddiw, mae’n dal yn adeiladwaith anghyffredin.

Isod: gweddillion Tŵr y De

Bydd tro o gwmpas muriau’r castell yn rhoi cipolwg i chi ar rai o’r golygfeydd mwyaf trawiadol yng Nghymru (peidiwch â synnu os y gwelwch grwpiau o arlunwyr yn ceisio rhoi’r golygfeydd hyn i lawr ar gynfas!). Yna dewch at nodwedd amlycaf y castell: sef y ddau dŵr cromfannol (yn nodweddiadol Gymreig o ran eu cynllun) a’r gorthwr. Er eu bod yn adfeilion, cawn ynddynt ddarlun o’r castell clasurol Cymreig fel y’i hadeiladwyd yng nghyfnod y tywysogion. Ar bwynt gogleddol eithaf y graig fe godwyd yr hyn y tybiwn ei fod yn dŵr y capel. Dim ond llawr isaf y tŵr enfawr hwn sydd wedi goroesi, ond ynddo cafwyd digon o gerrig wedi’u cerfio’n gelfydd i ddangos beth oedd ei swyddogaeth wreiddiol, ac mai ar y llawr uchaf mae’n debyg roedd y capel. Mae set o risiau serth i’w gweld o hyd yn arwain i fyny’r tŵr.

Yng nghanol y beili , wrth ochr y porth, mae gweddillion tŵr mawr petryal, a nodwyd gan rai fel y gorthwr mawr (isod). Unwaith eto, rhan fechan o’r tŵr hwn sydd wedi goroesi a’r llawr isaf yn unig sy’n dal yn gyflawn. Mae dwy set o risiau ar wahân yn arwain ato, sy’n ei wneud i edrych braidd yn od, gan nad yw’r llawr uchaf roeddynt yn amlwg yn arwain ato’n bod mwyach. O’r man hwn, serch hynny, y gellir cael y cipolwg gorau o gynllun cyffredinol Castell y Bere, ynghyd â golygfeydd trawiadol o Gadair Idris (sy’n codi’n uchel uwchben y castell ac y gellir ei weld o bob rhan o’r safle).

 

Isod: dwy olygfa o Dŵr y Gogledd.

Yn rhan ddeheuol safle Castell y Bere y gwelir yr adeiladwaith mwyaf diddorol efallai: sef yr ail a’r mwyaf o’r tyrau cromfannol (ar ffurf D). Yn wahanol i dŵr y gogledd, mae hwn yn sefyll ar wahân i weddill y castell, gyda mur cadarn yn unig yn eu cysylltu, a allai fod wedi’i ychwanegu wedi i Edward I gipio’r castell yn niwedd y 13 eg ganrif. Mae’n amlwg fod tŵr y de (isod) yn gweithredu fel uned hunangynhaliol, y gellid ei ddefnyddio fel lloches ac amddiffynfa olaf yn ystod gwarchae. Mewn gair, roedd y tŵr sylweddol hwn yn orthwr arall, a allai fod yn gryfach na’r gorthwr petryal yn nghanol i beili. Mae muriau tŵr y de, sy’n 10 troedfedd o led, gryn dipyn yn is na’u huchder gwreiddiol, a allai fod cyn uched â thri neu bedwar llawr. Ond mae digon wedi goroesi i roi ymdeimlad o ofn, ynghyd ag ymdeimlad sicr o ddiogelwch rhag ymosodiad. Mae archwilio’r adeiladwaith yn ddiddorol, gan ei fod yn ymddangos allan o’i le rhywsut, ar wahân bron, er ei fod yn un o elfennau mwyaf hanfodol y safle.

 

Isod: dwy olygfa o Dŵr y De.

 

Am rhyw chwe degawd yn unig y bu C astell y Bere’n gadarnle Cymreig. Ym mis Ebrill 1283, ildiwyd y castell o’r diwedd i luoedd Lloegr, y castell olaf i gwympo yn ystod ymgyrch tyngedfennol Edward I i Gymru i oresgyn gwrthryfeloedd y Cymry. Wedi i’r Saeson ei feddiannu, atgyweiriwyd Castell y Bere i raddau a sefydlwyd anheddiad wrth droed y bryncyn creigiog. Gwnaed un ymgais derfynol i adfeddiannu Castell y Bere gan Madog ap Llywelyn, a gyhoeddodd ei hun yn Dywysog Cymru, yn 1294. Ond cafodd y gwrthryfel hwn ei drechu’n fuan wedyn, ac wedi hynny difrodwyd Castell y Bere a’i wneud yn ddiwerth. Gadawyd yr anheddiad Seisnig newydd ac ni chafodd y castell ei ddefnyddio byth wedyn.

Rydym yn ffodus felly bod gweddillion y castell Cymreig pwysig hwn gennym o hyd i’w harchwilio , wedi iddynt orwedd yn dawel heb dderbyn fawr o sylw am 600 mlynedd a throsodd. Am gyfnod, yn eironig, byddai wedi bod ymhlith gorchestion mawr Llywelyn, gyda’i deils addurnedig, ffenestri gwydr lliw a cherfiadau gwych o filwyr arfog (Davis, 1988). Tra bo’r ddelwedd honno’n anodd i’w dychmygu heddiw, gellir darlunio cymuned brysur yn bywiogi’r safle, yn cadw gwyliadwriaeth ar hyd y dyffryn am elynion, a pharatoi ar gyfer amser pan y byddai tywysogion Cymreig eraill neu’r Saeson yn bygwth eu bodolaeth. Gallwn ymdeimlo ag ysbryd y bobl hyn a gwerthfawrogi’r aberth a wnaethant i amddiffyn eu mamwlad.

Mae C astell y Bere bellach yng ngofal CADW: Welsh Historic Monuments, ac mae’r safle ar agor i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim ar unrhyw adeg rhesymol. Gwnewch ymdrech arbennig i weld y castell hwn pan fyddwch yng nghanolbarth Cymru. Mae ei leoliad trawiadol a’i rôl yn hanes Cymru’n llawn haeddu eich sylw.

Lise Hull yw perchennog a rheolwr Castles of Britain, gwefan wybodaeth ac ymchwil sy’n darparu amrediad eang o wybodaeth am gestyll Prydain. Mae Mrs. Hull, sydd â gradd M.A. mewn Cadwraeth Hanesyddol, wedi ymweld â 160 a throsodd o gestyll yng Nghymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon. Mae’n croesawu cwestiynau o bob math yn ymwneud â chestyll Prydain; gellir ymweld â’i gwefan, Castles of Britain, neu gysylltu’n uniongyrchol â hi trwy’r cyfeiriad e-bost: castlesu@aol.com.


Isod: Golygfa letraws o Gastell y Bere. Hawlfraint (©) John Northall


Gan Jeff Thomas Pam felly y dylech roi amser i ymweld â chastell anghysbell y Bere? Mae’r gweddillion yn wir yn brin, ac mae’n anodd darlunio sut y byddai’r castell yn edrych yn ei anterth heb help adluniad gan arlunydd. Eto, mae’r safle hwn ymysg y mwyaf grymus y bûm ynddo yng Nghymru. Mae pwysigrwydd hanesyddol y castell (y sonnir amdano uchod) ynghyd â gwychder anhygoel y safle, yn creu profiad unigryw arall o gestyll Cymru. Efallai y byddwch yn treulio mwy o amser yn syllu ar odidowgrwydd Cader Idris a’r mynyddoedd o’i amgylch nag y byddwch yn archwilio olion y castell. Fel yn achos Castell Dinas Bran a Charreg Cennen, mae sylwi ar amgylchedd dramatig y castell hwn a gwerthfawrogi ei leoliad strategol yn gwneud archwilio’r math hwn o gastell Cymreig yn fwy gwerthfawr na’r rhai eraill sy’n fwy adnabyddus i dwristiaid ac mewn llenyddiaeth. Yng Nghymru mae’n talu’r ffordd bob amser bron i sicrhau eich bod yn gadael y briffordd ac mae ymweld â Chastell y Bere’n dangos pam fod tripiau o’r fath mor bwysig.


Ffotograffau ychwanegol o Gastell y Bere

Golygfa o fynedfa’r castell o’r ffos nadd islaw.

Golygfa o’r wlad oddi amgylch o adfeilion Tŵr y De.

Golygfa agosach o’r ffynnon a’r Tŵr Crwn.

Golygfa o’r bont dros y ffos nadd sy’n arwain at fynedfa’r castell.

Golygfa o un o’r adeiladau’r beili ynghyd â Thŵr y De ar y chwith isaf.

Golygfa arall o brydferthwch y wlad oddi amgylch y castell.