1B)b - Ffynonellau cig eidion – Y fuches odro
Mae’r fuches odro yn ffynhonnell bwysig o wartheg i gynhyrchu cig eidion. Bydd y modiwl yma yn edrych ar y prif ffactorau sy’n dylanwadu ar sgil-gynnyrch y fuches sy’n addas i’r diwydiant cig eidion. Yn ogystal bydd ystyriaethau wrth ddewis tarw ar gyfer cylchred cynhyrchu yn cael eu trafod.
Ar ddiwedd y modiwl byddwch yn gallu:-
- Disgrifio system gynhyrchu cig eidion sy’n defnyddio gwartheg godro
- Adnabod y ffactorau sy’n dylanwadu ar y gylchred gynhyrchu
- Adnabod pa darw sy’n addas i’r fuches odro
- Disgrifio’r math o loi sy’n cael eu cynhyrchu.
Gweithgaredd Myfyriwr

Does dim gweithgaredd rhyngweithiol ar gyfer yr uned yma
Fideo

Nid oes fideo ar gael ar gyfer yr uned yma
Gwefannau Hanfodol / Darllen ymhellach

Llawlyfr Cynhyrchwyr Cig Eidion “O’r Gât i'r Plât” – Hybu Cig Cymru / Meat Promotion Wales ‘From Gate to Place’ - Beef Producers Booklet http://www.hccmpw.org.uk/medialibrary/publications/Beef%20producers%20handbook%202010%20Cym.pdf
