Terminoleg Ynni Amgen ar gyfer athrawon
- Amp - Mesur llif cerrynt trydan drwy ddargludydd.
- Batri – Cell drydan sengl, neu grŵp o gelloedd wedi’u cysylltu, sy’n cynhyrchu cerrynt trydan uniongyrchol.
- Cell – Cynhwysydd wedi ei lenwi â sylwedd cemegol sy’n cynnwys electrodau ac electrolytau sy’n cynhyrchu cerrynt trydan drwy weithred gemegol.
- Cell danwydd – Dyfais lle mae tanwydd, fel nwy hydrogen, yn cael ei gyfuno gydag ocsigen i gynhyrchu trydan, dŵr, a gwres.
- Cerrynt – Llif trydanol drwy ddargludydd.
- Cerrynt eiledol - Cerrynt trydanol sy'n gwrthdroi cyfeiriad yn rheolaidd (fel arfer 60 gwaith bob eiliad); talfyrru "CE." Mae’r cerrynt hyn yn cael ei ddefnyddio mewn cartrefi.
- Cerrynt uniongyrchol – Cerrynt trydanol sy’n llifo mewn un cyfeiriad yn unig; talfyrru “CU”.
- Cilowat (kW) – Uned ar gyfer mesur ynni trydanol.
• 1,000 watt = 1 Cilowat
- Cilowat Awr (kWh) – Y defnydd o 1,000 watt o drydan am un awr gyfan.
• 1 kWh = deg bylb 100 watt oll ynghyn ar yr un pryd am awr
• 10 bylb x 100 watt yr un x 1 awr = 1,000 watt awr neu 1kWh
- Cylched – Llwybr cyflawn neu rannol a ddilynir gan lif o gerrynt trydan.
- Dargludydd – Sylwedd neu ddeunydd sy’n caniatáu electronau, neu gerrynt trydanol, i lifo trwyddo.
- Dynamo – Y math cyntaf o generadur mawr wedi ei ddatblygu ar gyfer gorsaf bŵer.
- Electrolysis – Cynhyrchu ynni cemegol drwy basio cerrynt trydanol drwy hylif o’r enw electrolyt.
- Electromagned – Coil o wifren wedi ei lapio o amgylch craidd haearn meddal sydd yn cael ei fagneteiddio pan mae cerrynt trydanol yn llifo drwyddo.
- Electromagnetig – Gwrthrychau a wneir yn fagnetig gan gerrynt trydanol.
- Electron – Atom wedi ei wefru’n negyddol sy’n cylchdroi o amgylch niwclews atom.
- Folt – Uned i fesur y grym a ddefnyddir i gynhyrchu cerrynt trydanol; y gwthiad neu’r grym sy’n symud cerrynt trydanol drwy ddargludydd.
- Ffiws – Dyfais ddiogelwch gyda gwifren neu stribyn o fetel sy’n toddi pan mae’r cerrynt yn mynd yn rhy gryf, gan dorri llif y cerrynt trydanol.
- Ffotofoltäig – Yn gallu cynhyrchu foltedd pan gaiff ei ddatgelu o flaen golau neu belydriad arall.
- Generadur – Peiriant sy’n cynhyrchu cerrynt trydanol, sy’n cael ei gylchdroi gan yrrwr allanol fel tyrbin.
- Generadur-tyrbin – Peiriant sy’n trosi egni hylif sy’n symud, megis dŵr neu stem, i bŵer mecanyddol sy’n gyrru generadur trydanol.
- Gwrthiant – Gwrthod gadael llif trydan trwy ddefnydd.
- Llwyth – Dyfais neu dyfeisiau trydanol sy’n defnyddio pŵer trydanol.
- Maes magnetig – Grym wedi ei ganfod sy’n bodoli o gwmpas magned neu faes trydanol.
- Magned – Gwrthrych wedi ei amgylchynu gan faes magnetig sydd â’r gallu naturiol i ddenu dur neu haearn.
- Megawatt – Miliwn watt, neu 1,000 kW.
- Mellt – Dadlwythiad trydanol statig rhwng dau gwmwl neu rhwng cwmwl a’r ddaear ynghŷd â fflach o oleuni.
- Mesurydd – Dyfais sy’n cofnodi neu’n rheoleiddio’r swm o rywbeth sy’n pasio drwyddo, megis trydan, dŵr, neu nwy.
- Modur – Peiriant sy’n cynhyrchu symudiad neu bŵer er mwyn gwneud gwaith.
- ohm – Yr uned o fesur gwrthiant trydanol deunydd i lif cerrynt.
- Pŵer – Y grym neu’r ynni a ddefnyddir i wneud gwaith.
- Radio – Y broses o ddanfon neu dderbyn negeseuon neu effeithiau, megis sain, drwy donnau electromagnetig drwy’r awyr heb wifren gysylltiol.
- Rhwydwaith – Y priffyrdd pŵer ar gyfer trydan, gan gynnwys is-orsafoedd a llinellau pŵer mawr.
- Soced – Agoriad gwag neu wagle lle mae rhywbeth yn ffitio, megis soced golau trydan.
- Switsh – Dyfais ar gyfer cysylltu, torri, neu newid y cysylltiadau mewn cylched drydanol.
- Toriad Trydan – Colled llwyr o bŵer trydanol sydd wedi ei gyflenwi gan y cwmni trydan.
- Trawsnewidiwr – Teclyn sy’n codi neu gostwng foltedd neu rym trydan cerrynt eiledol.
- Trydan – Math o ynni yn dod o symudiad electronau o un elfen i’r llall drwy gynhyrchu gwefr.
- Trydan dŵr – Ynni trydan sy’n cael ei wneud gan drosiant ynni a gynhyrchir o ddŵr rhedeg.
- Trydan statig – Gwefr drydanol sy’n cael ei chreu o ganlyniad i ffrithiant rhwng dau ddefnydd annhebyg. Mae ffrithiant yn symud rhai electronau o un gwrthrych i’r llall.
- Trydanu – Trydan sy’n cael ei gynhyrchu gan ormod (positif) neu brinder (negyddol) o electronau mewn gwrthrych.
- Tyrbin gwynt – Peiriant sy’n dal ynni’r gwynt a throsglwyddo’r symudiad i siafft generadur trydanol.
- Thermol – Yn defnyddio, yn cynhyrchu, neu wedi ei achosi gan wres.
- Watt – Uned i fesur pŵer trydanol
• 1 kilowatt = 1000 watt
• 1 megawatt – 1,000,000 watt
- Y ddaear – Cysylltiad o’r cerrynt trydanol i’r ddaear
- Ynni – Y pŵer i wneud gwaith.
- Ynni geothermol – Ynni gwres sy’n cael ei gadw o dan wyneb y ddaear.
- Ynni mecanyddol – Ynni drwy symudiad a ddefnyddir i wneud gwaith.
- Ynni niwclear – Yr ynni a gaiff ei gynhyrchu drwy hollti atomau mewn adweithydd niwclear.
- Ynni solar – Ynni a gaiff ei gynhyrchu gan symudiad o wres neu olau’r haul.
- Ynysydd – Gwrthrych neu ddefnydd nad yw’n gadael trydan drwyddo.