Alternative Energy

Beth yw Ynni Amgen?

Mae ynni amgen yn ffynhonnell o ynni heb gysylltiad â thanwyddau ffosil fel glo, olew a nwy. Mae'r ffynonellau amgen hyn yn gyfeillgar i'r amgylchedd gan nad ydynt yn achosi llawer, neu hyd yn oed unrhyw lygredd o gwbl.

Adnoddau:

Diffodd Golau

Diffodd Golau

Wind Energy

1. Gwynt

Mae tyrbin gwynt yn ddyfais sy'n defnyddio llafnau mawr i ddal gwynt. Mae'r gwynt yn troi'r llafnau sydd yna'n gyrru'r tyrbin i drosglwyddo ynni cinetig i ynni trydanol. Y cryfaf yw'r gwynt, y mwyaf o drydan sy'n cael ei gynhyrchu gan y tyrbin.

Adnoddau:

Tyrbinau gwynt

Tyrbinau gwynt

O blaid ac yn erbyn tyrbinau gwynt

O blaid ac yn erbyn tyrbinau gwynt

Solar Energy

2. Ynni Solar

Ynni solar yw un o'r ffurfiau glanaf a mwyaf dibynadwy o ynni amgen sydd ar gael. Mae'n bosib ei ddefnyddio mewn sawl ffurf er mwyn helpu i bweru eich cartref. Mae paneli ynni solar ffotofoltaidd yn troi pelydrau'r haul yn drydan wrth gyffroi electronau mewn celloedd silicon gan ddefnyddio ffotonau goleuni'r haul.

Adnoddau:

Gosod paneli solar ar dŷ

Gosod paneli solar ar dŷ

Arbrofion

Arbrofion

Celloedd ffotofoltäig

Celloedd ffotofoltäig

Saving Energy

3. Arbed Ynni

Mae yna nifer o ffyrdd y gallwn helpu arbed ynni trwy ein cartrefi, fel defnyddio bylbiau golau arbed ynni, defnyddio ynysiad wal ddwbl a chofio diffodd golau / dyfeisiau trydanol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.

Adnoddau:

Cartrefi arbed ynni

Cartrefi arbed ynni

Posteri bylbiau golau

Posteri bylbiau golau

Hydropower

4. Ynni Dŵr

Mae Ynni Dŵr yn dod yn anuniongyrchol o ynni'r haul. Mae'r haul yn cynhesu arwyneb y moroedd a'r llynnoedd ac yn gwneud i'r dŵr anweddu. Yna, mae'r dŵr yma'n troi'n gymylau ac yn disgyn fel glaw, sy'n bwydo nentydd ac afonydd y byd. Mae'r ynni yn y dŵr, wrth iddo rhedeg yn ôl i'r môr, yn gallu cael ei droi'n drydan wrth iddo basio drwy dyrbin sy'n gyrru generadur trydan.

Adnoddau:

Morlyn llanw

Morlyn llanw

Barn am y Morlyn llanw

Barn am y Morlyn llanw

Travel

5. Teithio

Mae gwahanol fathau o deithio neu drafnidiaeth yn defnyddio llawer o ynni. Ynni yw'r pŵer sy'n gwneud i rywbeth weithio ac mae'r ynni sy'n gwneud i gerbydau weithio yn dod o danwydd ffosil. Mae tanwyddau ffosil yn cynnwys glo, olew a nwy. Mae petrol a diesel yn cael eu gwneud o olew. Rhyw ddiwrnod, bydd tanwyddau ffosil yn dod i ben.

Adnoddau:

Seiclo

Seiclo

Ceir trydan

Ceir trydan

Good Examples

6. Esiamplau Da

Gallwn ailgylchu gwrthrychau a deunyddiau heb eu defnyddio o'r cartref er mwyn creu nifer o bethau fel clustogau, cafnau bwydo adar ac addurniadau.

Adnoddau:

Bois y Bins

Bois y Bins

Ailgylchu dillad

Ailgylchu dillad