4A - Costau Cynhyrchu
Nid yw systemau cynhyrchu cig eidion bob amser yn broffidiol felly mae angen asesu’r allbwn a chostau yn fanwl ac yn rheolaidd. Gan bod pob system gynhyrchu ac amcanion wahanol mae’r ffyn mesur a ddefnyddir i’w cymharu yn newidiol iawn. Drwy ddefnyddio amryw o dechnegau cyfrifo bydd y modiwl yma yn galluogi’r myfyriwr i asesu perfformiad ffisegol ac ariannol y system a gwneud cymariaethau meincnodi priodol. Byddwch hefyd yn mesur pris adennill costau’r anifail mewn system cig eidion.
Ar ddiwedd y modiwl byddwch yn gallu:-
- Adnabod y ffactorau sy’n dylanwadu ar elw bras o fewn system cig eidion
- Adnabod cymariaethau ariannol a ffisegol sy’n berthnasol i system cig eidion
- Mesur elw bras system cig eidion
- Cyfrifo pris adennill costau system cig eidion
- Gofyn cwestiynau allweddol wrth asesu elw bras a meincnodi
Taflen Wybodaeth
Nodiadau'r Athro
Gweithgaredd Myfyriwr
Elw Bras
Costau Porfeydd
Costau Sefydlog
Costau Sefydlog 2
Costau Menter
Pris Adennill Costau