Ystyr mewndethol yw mynd i mewn i'r feinwe laeth neu'r pwrs/cadair.
Mae gwartheg a defaid yn datblygu mastitis weithiau. Haint yn y pwrs yw hwn sy'n arwain at gyfrif cell somatig uchel a cholli cynnyrch. Mae'n gyflwr poenus iawn.
Gellir defnyddio triniaethau ataliol a gwellhaol.
Ar ddiwedd y sesiwn hon byddwch yn gallu:
- Enwi'r cynnyrch drwy'r deth a ddefnyddir ar gyfer gwartheg a defaid
- Egluro sut maen nhw'n gweithio
- Dweud beth ydi'r dull cywir o roi'r cynnyrch i mewn i'r pwrs