Mae'r lle neu'r amgylchedd lle cedwir yr anifail yn chwarae rhan enfawr yn ei iechyd a'i les. Mae gan anifeiliaid anghenion penodol sy'n rhaid eu diwallu os ydyn nhw'n mynd i berfformio i'w hoptimwm.
Mae'r uned hon yn delio ag amodau sydd eu hangen ar gyfer y cynhyrchu mwyaf a lleihau problemau sy'n codi o amgylcheddau anaddas.
Ar ddiwedd y sesiwn hon, byddwch yn medru egluro effeithiau'r canlynol ar amgylchedd yr anifail:
- Dwysedd stocio, amodau gorwedd a draeniad
- Hinsawdd
- Anghenion ar gyfer golau naturiol ac artiffisial