Uned 8: Ysgôth

Mae'r ysgôth yn un o'r clefydau mwyaf cyffredin mewn anifeiliaid ifanc. Dyma'r afiechyd sy'n achosi'r mwyaf o golledion o ran marwolaeth ac o ran colled economaidd, oherwydd y cyfraddau tyfu gwael. Dim ond un symptom yw'r ysgôth allan o amrywiaeth o achosion.


Bydd y sesiwn hon yn ymdrin â'r ysgôth mewn anifeiliaid ifanc.


Ar ddiwedd y sesiwn hon byddwch yn gallu:

  • Dweud beth yw ysgothi a'r niwed mae'n achosi
  • Egluro beth sy'n achosi'r ysgôth mewn anifeiliaid fferm o bob oed
  • Enwi'r pathogenau sy'n achosi ysgôth mewn lloi ac ŵyn
  • Egluro'r driniaeth a strategaethau atal sydd ar gael i'r ffermwr