Trychineb Cwch Aber Menai  (haen 1)

Safodd Huw Williams yng nghysgod drws un o siopau’r Maes. Cododd goler ei gôt drwchus i gysgodi’i glustiau a throdd at ei ffrind.

‘Mae’r gwynt yn codi, John,’ meddai gan daflu cipolwg boenus ar y cymylau’n rasio ben bwy gilydd uwch ben. ‘Pa bryd y medrwn ni gychwyn, dywed?’

Ysgydwodd John ei ben.

‘Dydi’r ffair ddim ar ben eto,’ meddai.

‘Mae’n well inni fynd i lawr at y cei,’ meddai Huw. ‘Efallai bod y rhan fwyaf o’r teithwyr yno’n barod.’

Cerddodd y ddau yno’n frysiog. Diwrnod oer a gwyntog ym Mis Rhagfyr oedd hi. Chwyrliai’r gwynt y dail a'r sbwriel yn gawodydd o’u cwmpas, a chwipiai ddwr y cei yn aflonydd. Roedd y fferi yno’n disgwyl, ond dim ond un neu ddau o deithwyr a lechai’n barod wrth gornel y wal.

‘Pa mor fuan y gallwn ni gychwyn?’ holodd Huw.

‘Dydi pawb ddim wedi cyrraedd,’ oedd yr ateb.

‘Ond mae hi’n bron yn bedwar o’r gloch ac yn tywyllu,’ meddai Huw.

‘Fedrwn ni wneud dim,’ atebodd y rhwyfwyr yn surbwch.

Edrychodd y ddau ar ei gilydd.

‘Mae’r llanw’n isel iawn am pump,’ meddai John gan dynnu ei het galed yn is a throi ei gefn ar y gwynt.

‘Daria’r oedi ‘ma,’ meddai Huw.

Teimlai ar binnau. Roedd yn hen bryd iddyn nhw gychwyn. Ac efo’r llanw mor isel .. wel .. cael a chael fyddai rhwyfo’n ddiogel rhwng y tywod-fanciau. Ond roedd criw y fferi wedi hen arfer rhwyfo’r Fenai, cysurodd ei hun.

‘O’r diwedd,’ grwgnachodd y rhwyfwyr wrth i’r teithwyr diwethaf gyrraedd. ‘Dowch! Rhowch draed arni. Rydyn ni’n hwyr.’

Dringodd pawb i’r cwch. Erbyn iddynt stwffio’i ffordd iddi, roedd y fferi dan ei sang. Dechreuodd Huw Williams gyfrif. Pum deg pump!

‘Mae hi’n llawn iawn,’ meddai’n isel wrth ei ffrind.

‘Ydi,’ nodiodd John.

Roedd o wedi swatio’n isel yn ei sedd. Morwr gwael oedd o, a dyheai am gael cyrraedd arfordir Môn.

Rhwyfodd y criw allan i’r lli heb ddweud gair. Roedden nhw wedi hen syrffedu disgwyl.

Erbyn hyn, fe gryfhaodd y gwynt. Chwythai o’r chwith, felly penderfynodd y rhwyfwyr gadw’n glos at ochr Caernarfon o’r afon i gysgodi ychydig, ac i gadw’n ddiogel yn y sianel hefyd.

Siaradai pawb yn hapus ar y dechrau. Bu’n ffair llwyddiannus i’r rhan fwyaf. Roedden nhw wedi gwerthu wyau ac ymenyn, a thatw a rwdins, ac yn anelu am adre wedi bargeinio am nwyddau yn eu lle.

Teimlai’r plant yn hapus hefyd. Fe gawson nhw ddiwrnod o redeg a chwarae ymysg y stondinau. A rwan, roedden nhw’n teimlo’n flinedig ac yn pwyso’n drwm ar eu rhieni wrth hepian cysgu. Edrychai pawb ymlaen at gyrraedd adre a chael swper poeth o flaen y tân.

O’r diwedd, cyrhaeddodd y fferi gyferbyn â’r Traethau Gwylltion. Dau dywod-fanc o bobtu’r sianel tua hanner y ffordd rhwng arfordir Môn a Chaernarfon oedd y rhain. Arswydodd Huw wrth edrych arnynt. Wnâi y fferi byth basio heibio’n ddiogel.

‘A’ch holl egni!’ gwaeddodd y rhwyfwyr ar ei gilydd wedi sylweddoli’r perygl.

Ymaflodd y teithwyr yn ei gilydd mewn ofn, a dechreuodd y plant wylo’n hidl.

‘Mam! Mam! Ydyn ni am foddi?’

‘Nac ydyn, siwr iawn,’ cysurodd eu mamau.

Ond daeth plwc sydyn a bu bron iddyn nhw i gyd syrthio i waelod y cwch. Roedden nhw’n sownd ar y tywod-fanc! Am eiliad, disgynnodd tawelwch rhyfedd ar y cwch. Dychrynodd pawb ormod i ddweud bw na be, dim ond edrych ar ei gilydd yn syfrdan. Yna dechreuodd y plant a’u mamau weiddi a sgrechian wrth i’r gwynt arllwys y tonnau i’r cwch.

Neidiodd rhai o’r dynion ohoni gan weiddi ar y rhai cryfaf.

‘Hwyth i’w rhyddhau! Un arall! Eto! Eto!’

Dringodd John allan ar ôl Huw. Cnoai’r sâl môr yn ei stumog, ond gorfododd ei hun i’w anwybyddu yng nghanol yr hunllef o wynt a thonnau a thywod gwlyb.

‘HWB ETO!’

Udai’r gwynt yn eu clustiau gan fygythio eu taflu’n bendramwnwgl i’r dwr. Suddai eu traed yn y tywod gwlyb, ond er iddynt wthio a gwthio fe fynnai’r gwynt a’r tonnau daflu’r cwch yn ôl ar y tywod-fanc. Yn fuan roedd pawb yn wlyb socian.

‘HWYTH ARALL!’ bloeddiodd y dynion yn wyllt.

Ond yn ofer. Ac erbyn hyn roedd y môr yn prysur lenwi’r cwch.

‘Allan â chi,’ gwaeddodd y rhwyfwyr. ‘Mae’r cwch yn suddo.’

‘Fedran ni ddim! O mam bach! Be wnawn ni?’

Ond roedd yn rhaid iddyn nhw. Safodd pawb ar y tywod-fanc yn crynu a gafael am ei gilydd. Hyrddiai’r gwynt ewyn môr i’w hwynebau a chodai’r tonnau fwyfwy o’u cwmpas.

‘Help!’ gwaeddodd pawb. ‘HELP!’

Canodd cloch sydyn yn bell ar y lan. Y gloch rybudd! Cododd gobeithion pawb.

‘Maen nhw wedi’n clywed. Fyddan nhw fawr o dro cyn ein hachub,’ meddai John yn ddiolchgar.

Ond doedd Huw ddim mor siwr. Roedd y tonnau’n crafangu’n nes. Doedd dim amser i’w golli.

‘Rhaid cael rhywbeth i afael ynddo i nofio’r lli,’ meddai. ‘Yr hwylbren yna.’

‘Fedra i ddim nofio,’ cyfaddefodd John.

Estynnodd rwyf oddi ar y tywod i Huw.

‘Fydd hon yn help?’

Clymodd Huw yr hwylbren a’r rhwyf yn ei gilydd efo rhaff wellt o’r fferi.

‘Mi edrycha i ar dy ôl di,’ cysurodd.

Llifodd y tonnau yn nes.

‘Achubwch ni! Plis!’ gwaeddodd y teithwyr gan syllu trwy’r gwyll.

Roedd cysgodion cychod yn agosau a lleisiau yn eu hannog i ddal eu gafael. Ond fedren nhw eu hachub?

Petrusodd y cychod ychydig bellter i ffwrdd. Roedden nhw ofn mentro’n nes a mynd yn sownd eu hunain.

‘Achubwch ni! O .. achubwch ni,’ erfyniodd pawb.

Ond roedd yn rhy beryglus .. ac yn rhy dywyll. Ac erbyn hyn, doedd dim ond lleisiau pell yr achubwyr i’w clywed uwch cwynfan y gwynt.

‘Rhaid ymddiried i’r tonnau,’ penderfynodd Huw.

‘Ond .. fedra .. i ddim,’ meddai ei ffrind yn wantan.

‘Wrth gwrs y medri di,’ meddai Huw. ‘Efo mi.’

Ond gwrthododd John. Estynnodd ei wats i Huw.

‘Rho hi i fy nheulu os na cha i fy achub,’ meddai.

Craffodd Huw arno.

‘Wyt ti’n siwr?’

‘Ydw. Dos. Mi fydda i’n ôl reit.’

Tynnodd Huw ei gôt a’i esgidiau. Yna pwysodd ar y prennau a thaflu ei hun i’r tonnau. Ond Ow! Trodd y cyfan drosodd oddi tano. Llyncodd ddwr hallt oer wrth suddo, ond gafaelodd fel gelen yn y prennau a llwyddo i godi ei ben uwch y dwr.

Pellhaodd lleisiau gwan y teithwyr wrth i’r tonnau ei sgubo ymaith. Ceisiodd nofio trwy’r lli. Ond teimlai ei gorff fel lwmpyn o rew. Doedd waeth iddo ollwng y prennau ddim. Ond eto, rywsut, fe ddaliai i obeithio.

Yna gwelodd oleuni yn y pellter. Golau Tal–y-Foel tybed? Rydw i’n agos at yr arfordir, meddyliodd yn ddiolchgar.

‘Help! HELP!’ gwaeddodd yn floesg.

Ond doedd dim ymateb o’r lan. Ac yn fuan diflannodd y goleuni wrth i’r llanw ei gludo heibio. Digalonnodd.

‘Fedra i ddim dal ati ragor,’ meddyliodd.

Ond roedd yn rhaid iddo.

Cludodd y tonnau ef yn ôl ac ymlaen. Weithiau tua’r lan yna yn ei gipio’n ôl drachefn.

Yna’n sydyn teimlodd dywod a cherrig mân oddi tano. Y lan! Ymgripiodd yn flinedig i fyny’r traeth nes cyrraedd cysgod bôn clawdd. Arhosodd yno am amser hir.

Ond roedd yn rhaid iddo symud. Roedd ei gorff mor oer a’r grepach yn cerdded ei gorff. Cododd yn afrosgo a disgyn yn ôl drachefn. Roedd ei goesau wedi rhewi’n gorn!

Gwasgodd ei ddannedd at ei gilydd yn benderfynol. Gafaelodd mewn gwreiddyn draenen a thynnu ei hun i fyny’n llafurus heb falio dim am y pigau a dynnai’r gwaed o’i ddwylo.

Syllodd o’i gwmpas yn wantan a gweld golau pell unwaith eto. Tal-y-Foel! Baglodd i’w gyfeiriad. Ond roedd symud un droed heibio’r llall yn farathon. Doedd o byth am gyrraedd.

Ceisiodd anwybyddu ei goesau trwm a’i bendro chwil. Fuodd o erioed mor oer a gwlyb a blinedig. Ond roedd o bron â chyrraedd. Baglodd yn igam ogam am y drws.

‘Be ydi’r swn yna?’ gofynnodd merch Tal-y-Foel.

Gwelodd gysgod dyn trwy’r ffenest.

‘Ysbryd! Ysbryd!’ sgrechiodd nerth ei phen.

‘Lol botes,’ wfftiodd ei thad.

Yna gwelodd Huw.

‘Ddyn annwyl,’ meddai mewn dychryn. ‘Dowch i’r ty ar unwaith. Rhowch frics poethion mewn gwely iddo,’ gorchmynnodd ‘a diod cynnes i’w ddadebru. Brysiwch!’

Erbyn bore trannoeth, fe lonyddodd y gwynt ac fe dywynnai haul gaeaf gwantan ar y Fenai. Ond ni achubwyd neb o’r fferi. Dyna lwcus fu Huw Williams.

Tybed wyddoch chi am ddau Huw Williams arall a achubwyd o’r Fenai? Un mewn trychineb yn 1785, medden nhw, ac un arall yn y flwyddyn 1820?