Fideo
Gweithgareddau
Nodiadau Athro

Yr Amgylchedd Allanol

Fideo

GISDA

Yma mae Gethin Evans (Pennaeth Gwasanaeth GISDA - cwmni o'r sector gwirfoddol sy'n darparu cefnogaeth a chyleoedd i bobl ifanc) yn trafod agweddau yn ymwneud ac Amgylchedd Allanol. Mae'r trafod effeithiau diweithdra a'i effaith ar y gwasanaeth. Mae'n trafod pwysigrwydd ymateb os yw lefelau diweithdra yn uchel, a sut mae tlodi yn cael effaith mawr ar bobl ifanc - a hefyd pwysigrwydd bod yn sensitif i anghenion bobl ifanc yn eu harddegau sy'n wynebu diweithdra, cyflogau isel a thlodi.


LLAETH Y LLAN

Yma mae Owain Roberts (Cyfarwyddwr Llaeth y Llan) yn trafod chwyddiant, cyflogau, cyfraddau llog, ac ail fuddsoddi (i gyd yn ffactorau allanol) a'r effeithiau mae hyn yn ei gael ar y cwmni. Mae hefyd yn trafod cyfleon i allforio eu nwyddau i'r Dwyrain Canol a'r ffactorau sydd yn gwneud hyn yn bosib.


CEM BERWYN

Yma mae Joanna Marsden(Pennaeth Lleihau Aildroseddu CEM Berwyn) yn trafod yr amgylchedd allanol o ran lefelau diweithdra a sut mae hyn yn gallu effeithio arnynt wrth baratoi dynion i fywyd oddi allan i garchar. Mae'n disgrifio pwysigrwydd targedu'r hyfforddiant galwedigaethol cywir, a hefyd yr angen i ddarparu hyfforddiant sgiliau sylfaenol er mwyn ateb gofynion y dynion wedi eu rhyddhau o'r carchar.

Nodiadau
Athrawon