Fideo
Gweithgareddau
Nodiadau Athro

Gwasanaeth Cwsmeriaid

Fideo

GISDA

Yma mae Gethin Evans (Pennaeth Gwasanaeth GISDA - cwmni o'r sector gwirfoddol sy'n darparu cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc) yn trafod gwasanaethau GISDA - o weithio i ddarparu llety i unigolyn, cefnogaeth ymarferol o fewn y gymuned i weithio gydag unigolion er mwyn codi hyder a pharatoi ar gyfer byd gwaith. Mae'n trafod pwysigrwydd rhoi llais i bobl ifanc a'u hyfforddi ar gyfer gwaith yn eu caffi cymunedol.


LLAETH Y LLAN

Yma mae Falmai Roberts (Cyfarwyddwr Llaeth y Llan) cwmni o'r sector breifat sy'n cynhyrchu Iogwrt, yn trafod pwysigrwydd gofal cwsmer ac yn sicrhau eu bod fel cwmni yn parhau i ddarparu'r cynnyrch gorau a'r ddelwedd o safonau uchel yn eu cynnyrch. Mae'n trafod trefn gwasanaeth cwsmer, pwysigrwydd safonnau y cynnyrch a'r lleoliad er mwyn llwyddo o fewn marchnad gystadleuol.


CEM BERWYN

Mae Joanna Marsden(Pennaeth Lleihau Aildroseddu CEM Berwyn) yn trafod eu dyletswydd i sicrhau ansawdd y gwasanaeth o fewn y carchar (o ran y dynion ac ymwelwyr). Mae'n disgrifio sut mae gwasanaeth cwsmer wedi newid o fewn y sector dros y blynyddoedd, pwysigrwydd rhoi llais a gwrando ar adborth er mwyn ceisio, yn y pen draw, lleihau rhifau ail droseddu.

Nodiadau
Athrawon