GISDA |
Mae Sara Maredydd yn gynorthwyydd Marchnata a Gweinyddol yng nghwmni GISDA (cwmni o'r sector gwirfoddol syn darparu cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc). Mae'r cyfweliad yn manylu ar yr ardal eang mae'r cwmni yn ei wasanaethu, pa ddulliau maent yn eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth o'r cwmni er mwyn hybu gwasanaethau a gweithgareddau. Mae eu gwaith cymunedol yn greiddiol i lwyddiant y cwmni ac felly eu dulliau o farchnata yn bwysig iawn. |
LLAETH Y LLAN |
Yma mae Owain Roberts (Cyfarwyddwr Llaeth y Llan) yn pwysleisio pwysigrwydd marchnata effeithiol i lwyddiant eu busnes. Mae gan y brand sydd yma farchnad darged eang ac mae'r ymchwil marchnata yn bwysig er mwyn sicrhau fod y cynnyrch yn cyfarfod ac anghenion a disgwyliadau eu cwsmeriaid. |
CEM BERWYN |
Yma mae Joanna Marsden(Pennaeth Lleihau Aildroseddu CEM Berwyn) yn trafod yr amrywiaeth o ddulliau marchnata sydd yn berthnasol i'r Berwyn – sef ar gyfer recriwtio staff, codi ymwybyddiaeth tra roedd y sefydliad yn cael ei hadeiladu, a'i ddefnydd heddiw o fewn y carchar gyda'r dynion. |
Marchnata
Fideo
Gweithgareddau
Nodiadau
Athrawon