Mae’r unedau canlynol wedi eu cynllunio i roi gwybodaeth am y sgiliau sylfaenol a gwybodaeth sydd eu hangen er mwyn gofalu’n briodol am amrywiaeth eang o anifeiliaid.

Bydd pob uned yn canolbwyntio ar grwpiau gwahanol o anifeiliaid, ac yn pwysleisio anghenion rhywogaethau o fewn amrediad o gategorïau. Fel cyfanwaith, mae’r cwrs byr hwn yn cyflwyno agweddau allweddol ar sut i ofalu am anifail, ac yn dangos sut i ddefnyddio’r sgiliau a gwybodaeth angenrheidiol er mwyn cynnal iechyd a lles yr anifail.


Nodiadau ar gyfer defnyddio’r adnodd hwn

Llwythwch i lawr y nodiadau ar sut i ddefnyddio’r adnodd hwn |pdf PDF

Uned 1: Gofalu am anifeiliaid bach

Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar famolion bach cyffredin, trwy ddefnyddio amrywiaeth o gnofilod i’w harddangos.  Mae’r testunau yr ymdrinnir â nhw’n cynnwys  triniaeth gywir, llety a bwydo, ffisioleg a seicoleg, amgylchedd naturiol ac ymddygiad, ac asesiad risg.

Ymweld ag uned 1: Gofalu am anifeiliaid bach

Uned 2: Gofalu am anifeiliaid anwes

Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar anifeiliaid anwes cyffredin.  Defnyddir amrywiaeth o rywogaethau i’w harddangos.  Mae’r testunau yr ymdrinnir â nhw’n cynnwys triniaeth gywir, llety a bwydo, ffisioleg a seicoleg, amgylchedd naturiol ac ymddygiad, a chludiant.

Ymweld ag uned 2: Gofalu am anifeiliaid anwes

Fideo

Dyma restr gyflawn o’r holl ffeiliau fideo ar gyfer Uned 1 ac Uned 2.

Ymweld â’r fideos yn unig