Homeostasis yw'r broses yn y corff lle mae'r corff yn cadw'r tymheredd, cyfradd calon, cyfradd resbiradaeth yn gyson, ac mae lefel gywir o gemegau gwahanol yn y gwaed e.e. calsiwm.
Os oes anghydbwysedd yn y corff am ryw reswm, yna gelwir y cyflwr sy'n dilyn hyn yn glefyd neu anhwylder metabolig.
Ar ddiwedd y sesiwn hon byddwch yn gallu:
- Enwi'r prif anhwylderau metabolig mewn gwartheg a defaid
- Egluro beth sy'n achosi'r anhwylderau
- Disgrifio triniaethau cyffredin
- Gwerthuso'r mesurau atal sydd i'w cael