Gwybodaeth gefndir
Gweithgareddau rhyngweithiol
Lawrlwytho
Cwis
Gwybodaeth ychwanegol

Asesu risg

Gwybodaeth
gefndir

1. Asesu Risg – nodi a rheoli peryglon (HACCP)

Cyflwyniad

Mae Deddfau Diogelwch Bwyd yn canolbwyntio ar warchod defnyddwyr rhag salwch a niwed o fwyd.
HACCP: Trefn ar gyfer asesu peryglon bwyd a chyflwyno rheolaeth, monitro a chynnal safonau. HACCP = Dadansoddiad Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol.

  1. Bod â system HACCP.
  2. Dylunio siart HACCP ar gyfer pob saig trwy ddechrau gyda phrynu'r elfennau a gorffen gyda gweini'r saig.
  3. Dadansoddi pob cam i benderfynu beth allai fynd o'i le, gan gynnwys, biolegol, ffisegol a chemegol.
  4. Nodi beth sydd i'w wneud i reoli'r broblem, h.y. sicrhau bod gan bob aelod o'r staff safonau hylendid personol uchel, eu bod yn defnyddio amser a thymheredd i ladd bacteria neu gadw bwyd amrwd a bwyd sydd wedi'i goginio ar wahân.
  5. Pennu safonau ar bob llwybr critigol. Rhaid i chi gadw nodiadau fod y rheolau rheoli hyn yn gweithio.
  6. Adolygu'r system HACCP wrth newid rysáit neu ddatblygu saig newydd neu newid unrhyw ddulliau gweithredu yn y gegin.
    Rhaid adolygu'r system HACCP bob 12 mis.
  7. Rhaid cadw holl ddogfennau HACCP ac unrhyw nodiadau perthnasol.

HACCP: lluniwyd i gynorthwyo cwmnïau bwyd i leihau'r risg sy'n deillio o beryglon bwyd.
Mae modd lleihau'r risgiau o beryglon bwyd trwy ddilyn y saith cam hyn.

Lleihau Risgiau

  • Dadansoddi'r peryglon ar bob cam o drin bwyd.
  • Asesu maint y risg o bob perygl.
  • Penderfynu beth yw'r pwynt mwyaf critigol, h.y. gallai fod yn rheoli amser a thymheredd.
  • Gweithredu rheolaethau priodol i leihau peryglon neu i leihau'r risg sy'n deillio bob perygl.
  • Sefydlu trefn fonitro i sicrhau bod y system yn effeithiol.
  • Sefydlu trefnau newydd i gywiro unrhyw broblemau a sicrhau bod pob person sy'n trin bwyd yn ymwybodol ohonynt.
  • Adolygu'r system wrth newid seigiau neu ddulliau gweithredu.

Pwyntiau rheoli critigol ar gyfer arlwyo


Cam

Perygl

Gweithred

1. Prynu Fe all bwyd risg uchel fel cig amrwd gael ei halogi â bacteria gwenwyn bwyd.
  • Prynu gan gyflenwr gydag enw da.
  • Nodi tymereddau uchaf ar gyfer bwyd wrth ei dderbyn.
2. Derbyn Bwyd Fe all bwyd risg uchel fel cig amrwd gael ei halogi â bacteria gwenwyn bwyd.
  • Gweld sut olwg sydd ar y bwyd.
  • Edrych o fewn y dyddiad 'gwerthu erbyn.'
  • Arogli.
  • Teimlo'n iawn.
3. Storio Fe all bacteria gwenwyn bwyd dyfu ar fwydydd risg uchel a halogi bwydydd eraill.
  • Cadw bwyd risg uchel ar dymheredd diogel.
  • Labelu bwyd â dyddiad 'gwerthu erbyn' a'i ddefnyddio erbyn y dyddiad hwnnw.
  • Cylchdroi stoc fel bod y bwyd hynaf yn cael ei ddefnyddio gyntaf.
4. Paratoi Bwyd Fe all bwyd risg uchel gael ei halogi â bacteria gwenyn bwyd. Fe all y bacteria dyfu.
  • Golchi'r dwylo cyn trin bwyd.
  • Peidio â chadw bwyd ar dymheredd ystafell.
  • Defnyddio offer glân.
  • Defnyddio offer gwahanol ar gyfer bwydydd risg uchel a bwydydd eraill.
  • Gwahanu bwydydd amrwd oddi wrth rai sydd wedi'u coginio.
5. Coginio Fe all bacteria gwenwyn bwyd oroesi yn ystod coginio.
  • Coginio bwyd e.e. cig fel bod y rhan fwyaf trwchus yn cyrraedd 75°C.
6. Oeri Fe all bacteria gwenwyn bwyd sy'n goroesi dyfu. Fe all y bacteria gynhyrchu gwenwyn.
  • Oeri bwyd cyn gynted â phosib.
  • Peidio â gadel i fwyd oeri ar dymheredd ystafell.
7. Cadw'n boeth e.e. ar gownter bwyd hunanweini
  • Cadw bwyd ar 63°C neu uwch.
8. Aildwymo Fe allai bacteria gwenwyn bwyd oroesi wrth aildwymo.
  • Aildwymo bwyd i 75°C neu uwch.
9. Storio (oer) Fe all bacteria gwenwyn tyfu yn y bwyd.
  • Cadw tymheredd storio cywir.
  • Labelu'r bwyd risg uchel yn gywir a nodi' dyddiad 'gwerthu erbyn' cywir.
10. Gweini Fe all bacteria gwenwyn tyfu yn y bwyd. Fe all bacteria gynhyrchu gwenwynau.
  • Gweini bwyd oer cyn gynted ag sy'n bosib ar ôl symud o'r oergell rhag iddo gynhesu.
  • Gweini bwyd poeth cyn gynted ag y bo modd.

Rhestr Wirio HACCP ar gyfer Tîm y Gegin


1. Holl bobl sy'n trin bwyd i fod â Chymhwyster Diogelwch Bwyd cyfredol
2. Holl bobl sy'n trin bwyd yn ymwybodol o bwysigrwydd Diogelwch Bwyd
3. Pob person sy'n trin bwyd i hysbysu salwch i'r rheolwr / goruchwyliwr
4. Cadw golwg ar holl reolau Diogelwch Bwyd bob amser
5. Cadw golwg ar drefnau holl gyflenwyr bwyd a chadarnhau tymheredd ac ansawdd holl gyflenwadau bwyd yn drwyadl
6. Gwahanu bwyd amrwd a bwyd wedi'i goginio
7. Sicrhau bod pawb sy'n trin bwyd yn defnyddio'r sinciau golchi dwylo
8. Cymryd pob cam i atal croes halogi
9. Cadw cofnodion rheoli tymheredd manwl gywir ac osgoi cadw bwyd yn y parth perygl (rhwng 5°C a 63°C.)
10. Sefydlu amserlen lanhau effeithiol

÷10 = %


Iechyd a Diogelwch

Mesur yw Iechyd a Diogelwch a luniwyd i warchod y gweithlu, cwsmeriaid, contractwyr ac unrhyw ymwelwyr neu aelod o'r cyhoedd sy'n cael eu heffeithio mewn unrhyw fodd gan waith.

Termau allweddol:

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE): yw'r corff sy'n rheoleiddio iechyd a diogelwch.

Perygl: rhywbeth a allai beri niwed.

Risg: y tebygolrwydd o achosi niwed.

Cost damweiniau a salwch

Dangosodd astudiaeth gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) bod damweiniau'n costio hyd at 37% o elw un sefydliad.

Cost safonau Iechyd a Diogelwch gwael:

  • Cynnydd mewn absenoldeb salwch.
  • Marwolaethau.
  • Lleihau perfformiad cwmni.
  • Costau yswiriant uwch.
  • Colli cynhyrchiad.
  • Cyhoeddusrwydd drwg sy'n gallu arwain at enw drwg.

Deddf Iechyd a Diogelwch wrth Weithio (1974) HASAWA

Mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith yn cwmpasu pob agwedd o Iechyd a Diogelwch ac mae dyletswyddau gweithwyr yn cynnwys:

  1. Gofalu am eu hiechyd a diogelwch eu hunain yn y gwaith.
  2. Gofalu am iechyd a diogelwch eraill (gan gynnwys aelodau'r tîm a chwsmeriaid).
  3. Cydweithredu gyda'u cyflogwr o ran iechyd a diogelwch.
  4. Hysbysu unrhyw sefyllfaoedd peryglus i'w goruchwyliwr / rheolwr.
  5. Peidio â chamddefnyddio nac ymyrryd ag unrhyw beth a ddarparwyd at ddibenion iechyd a diogelwch.

Mae'r cyflogwr yn gyfrifol am y canlynol:

  1. Darparu a gofalu am offer a systemau gwaith gan sicrhau eu bod yn ddiogel ac nad ydynt yn effeithio ar iechyd y gweithlu.
  2. Delio â holl sylweddau, fel cemegau.
  3. Rhoi gwybodaeth, hyfforddiant a goruchwyliaeth ar bob agwedd o Iechyd a Diogelwch.
  4. Cynnal gweithle iach a diogel ar gyfer yr holl weithlu.
  5. Darparu datganiad polisi Iechyd a Diogelwch.

2. Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch – cynllun pum pwynt


Dywed deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch bod:

  1. Rhaid darparu polisi iechyd a diogelwch ysgrifenedig wrth gyflogi pump o bobl neu fwy.
  2. Rhaid cwblhau asesiad risg ar gyfer aelodau'r staff, cwsmeriaid, contractwyr ac ymwelwyr.
  3. Cynllunio, rheoli, arolygu ac adolygu holl fesurau Iechyd a Diogelwch.
  4. Sicrhau bod cyngor Iechyd a Diogelwch priodol ar gael i bob aelod o'r staff.
  5. Ymgynghori ag aelodau'r staff o ran risgiau posibl a sefydlu mesuriadau i leihau'r risgiau hyn.

Gorfodi

Bydd swyddogion gorfodi'n cynorthwyo'r busnesau i gydymffurfio â'r gyfraith.
Fe allant wneud y canlynol:

  1. Mynd i mewn i eiddo ac adeiladau.
  2. Cynnal ymchwiliad.
  3. Holi.
  4. Cymryd samplau a thynnu lluniau.
  5. Rhoi cyngor ar welliannau.
  6. Rhoi rhybuddion gwella.
  7. Peri erlyniad.


Arwyddion Iechyd a Diogelwch


Arwydd

Golwg

Llun

Arwyddion Rhybuddio Mae y rhain yn drionglog. Symbol du ar gefndir melyn e.e. gofal neu berygl.
Arwyddion gorfodol(rhaid gwneud) Mae y rhain yn grwn. Symbol gwyn ar gefndir glas. Arwydd: e.e golchi dwylo.
Arwyddion gwahardd(peidio â gwneud) Mae y rhain yn grwn. Symbol du ar gefndir gwyn. Cylch gydag ymyl coch gyda llinell letraws drwchus ar ei draws yn dangos pethau na ddylid eu gwneud e.e dim ysmygu.
Arwyddion argyfwng Mae y rhain yn sgwâr neu betryal. Symbol gwyn ar gefndir gwyrdd e.e. arwydd allanfa dân.
Arwyddion diffodd tân Mae y rhain yn sgwâr neu betryal. Symbol gwyn ar gefndir coch. e.e. pibellau tân.

3. Rheolau Tân



Y ddeddfwriaeth ynglŷn â diogelu rhag tân yw: Diogelwch rhag Tân a Rheoliadau, Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005

Mae'n amlinellu rhagofalon tân cyffredinol a gofynnol gan fusnesau, gan gynnwys:

Dull o ganfod a rhoi rhybudd os bydd tân Clychau tân
Darparu ffordd o ddianc Allanfeydd tân
Dull o ymladd tân Diffoddwyr tân
Hyfforddi staff mewn diogelwch tân Cofnodion hyfforddiant

Mae cyflogwyr yn gyfrifol am gydymffurfio â'r Ddeddf ac asesu risgiau.




Mae rhai o gyfrifoldebau cyflogwyr a staff yn cynnwys y canlynol:

  • Rhaid i gyflogwyr hysbysu staff o unrhyw risg a nodwyd mewn asesiad risg.
  • Rhaid i gyflogwyr gynnal hyfforddiant trin tân fel rhan o'r cynefino i gynnwys:
    • Atal tân.
    • Lleoliad offer tân.
    • Mannau ymgynnull.
  • Rhaid i gyflogwyr gynnal holl offer ymladd a chanfod tân (larymau mwg) a llwybrau argyfwng yn llawn a'u cadw mewn cyflwr da.
  • Rhaid i weithwyr gydweithredu gyda chyflogwyr i sicrhau bod y gweithle'n ddiogel rhag tân, a pheidio â gwneud dim sy'n rhoi eraill mewn perygl.

Mae atal tân yn gyfrifoldeb pwysig iawn i holl fusnesau, oherwydd ei fod yn gallu effeithio ar bobl yn y gwaith, cwsmeriaid, ymwelwyr, contractwyr, diffoddwyr tân ac unrhyw un yn y cyffiniau bryd hynny.
Mae peryglon tân yn cynnwys:

  • Fflamau a gwres
  • Lleihau ocsigen
  • Mwg a tharthau gwenwynig
  • Cwymp adeiladau
  • Fe all tân arwain at anaf a marwolaeth.


Fe all gwahanol bethau yn y gegin achosi tanau:


  • Offer wedi gorboethi.
  • Hylifau poeth fel saim mewn ffriwyr.
  • Celfi neu offer gyda fflam agored.
  • Arwyneb poeth, fel offer goleuo a gwresogi a byrddau bwyd poeth.
  • Clytiau popty wrth symud sosbenni ar stôf fflam agored.

Rhaid i'r sawl sy'n gyfrifol sefydlu trefn ddianc os bydd tân sy'n cynnwys:

  • Cynnal prawf dril tân.
  • Nodi sefyllfaoedd a allai achosi argyfwng.
  • Nodi sut i wagio'r adeilad mewn argyfwng.
  • Nodi'r drefn i'w dilyn i adael i unigolion ddod yn ôl i'r adeilad.
  • Sicrhau bod dull o ddianc ar gael bob amser.
  • Sicrhau bod diffoddwyr tân digonol a phriodol ar gael ymhob ardal.
  • Cyfarwyddo'r holl weithlu.
  • Sicrhau bod unrhyw ymwelwyr, cwsmeriaid a chontractwyr yn cael cyfarwyddyd os bydd angen gwagio'r adeilad.

Rhaid i'r sawl sy'n gyfrifol wneud asesiad risg sy'n cynnwys:

  • Nodi'r perygl tân.
  • Nodi pobl sydd mewn perygl.
  • Asesu'r risgiau.
  • Cofnodi'r canfyddiadau.
  • Adolygu a diweddaru'r asesiad risg fel bo angen.

Trefn Gwagio'r Adeilad os bydd Tân


  1. Seinio'r larwm.
  2. Galw'r Frigâd Dân.
  3. Diffodd y cyflenwad nwy a thrydan os gallwch.
  4. Ceisio diffodd y tân ond peidio â pheryglu eich hun.
  5. Cau pob ffenestr a drws.
  6. Gadael yr adeilad a mynd i'r Man Ymgynnull.
  7. Peidio ag oedi cyn seinio'r larwm tân neu alw'r Frigâd Dân.
  8. Peidio â defnyddio unrhyw lifft.
  9. Peidio â gwastraffu unrhyw amser yn casglu eiddo personol.

Cwis

Gwybodaeth
Ychwanegol