Cyfnod Allweddol 3 - Fern Hill
Pan o'n i'n rhwydd o ifanc dan ganghennau'r afallen
ger y tŷ seinber ac mor hapus â glesni'r borfa,
a'r nos uwchben y pant yn serennog,
amser a'm goddefodd i gyfarch a dringo'n euraid
yn anterth dyddiau ei lygaid,
ac mor anrhydeddus oeddwn ymhlith wagenni
fel y'm gwnaed yn dywysog y trefi afalau,
ac un tro dan amser, trefnais, ag urddas, i'r coed deiliog
ddiferu llygaid y dydd a barlys
i afonydd y goleuni disymwth.
A phan o'n i'n laslanc ysgafnfryd, yn rhywun ymhlith ysguboriau
o gylch y clos dedwydd ac yn moli cartrefoldeb y ffarm,
dan yr haul nad yw'n ifanc ond unwaith,
amser a'm goddefodd i chwarae
a'm heuro yn nhrugaredd ei drugareddau,
a minnau newydd fy mathu, rown i'n heliwr a chowman,
clywn gydganu'r lloi â'm corn a chyfarth cadnoid y bryniau
yn iasoer glir,
ac atseiniai'r Saboth dioglyd
yng ngraean y nentydd cysegredig.
Roedd amser ar redeg drwy'r haul hir, hyfryd,
a'r perci gwair gyfuwch â'r tŷ, a'r alawon yn codi o'r simneiau
i'r awyr i chwarae yn ddyfrllyd hyfryd,
a thân ffyrniced â phorfa.
A beunos dan y sêr syml
fel y brochgáwn i'r cae nos, âi'r gwdihŵs â'r ffarm i ffwrdd,
ac ar hyd y lloer hir fe glywn, yn fendigaid ymhlith stablau,
weilch y nos ar wib gyda'r teisi,
a'r ceffylau'n tasgu i'r tywyllwch.
Ac wedyn, dihuno, a'r ffarm yn dychwel fel crwydryn gwyn
gan wlith, a'i geiliog ar ei ysgwydd: a'r cyfan
mor ddisglair, fel Adda a'i forwyn,
ailgronnodd yr awyr
a phelennodd yr haul yr union ddiwrnod hwnnw.
Felly yr oedd hi, mae'n rhaid, ar ôl geni'r golau syml
yn y lle chwyrlïog cyntaf, a'r ceffylau syfrdan yn camu'n wresog
mas o'r stabal las weryrog
i'r meysydd mawl.
Ac yn anrhydeddus ymhlith cadnoid a ffesantod ger y tŷ hapus
dan y cymylau newyddanedig, mor llon â hyd y galon
yn yr haul ganedig drachefn a thrachefn,
rhedwn yn ddihidans,
yn flys,
ar frys drwy'r gwair fel talcen tŷ,
heb fecso dim yn fy musnes dan awyr las, fod gan amser,
yn ei holl droeon seinber, gyn lleied o ganu plygain
cyn i'r plantos ir ac euraid
ei ddilyn mas o ras,
heb fecso dim, yn y dyddiau gwyn fel ŵyn,
yr âi amser â mi gerfydd cysgod fy llaw
i lofft dan ei sang o wenoliaid,
yn y lleuad sy'n tragwyddol godi,
nac ychwaith wrth farchogaeth i gysgu,
y'i clywn yn gwibio gyda'r perci uchel
a dihuno i weld y ffarm wedi ffoi am byth o'r wlad ddi-blant.
O, pan o'n i'n rhwydd o ifanc yn nhrugaredd ei drugareddau,
amser a'm daliodd yn ir a marwol
er i mi ganu yn fy nghadwyni fel y don.
T.James Jones