Cyfnod Allweddol 3 - Nadolig Plentyn yng Nghymru
Yn y blynyddoedd hynny a drodd o gwmpas cornel y dre glan môr, roedd un Nadolig mor debyg i'r llall; y blynyddoedd hynny sydd erbyn hynny tu hwnt i sŵn, oni bai am siarad pell y lleisiau a glywaf weithiau cyn cysgu, fel na allaf yn fy myw gofio a fu' hi'n bwrw eira am chwe niwrnod a chwe noson pan oeddwn i'n ddeuddeg ynteu a fu hi'n bwrw eira am ddeuddeg diwrnod a deuddeg noson pan oeddwn i'n chwech.
Mae pob Nadolig yn rowlio i lawr tuag at y môr dau dafod, fel lleuad pendramwnwgl yn bwndelu i lawr yr awyr a oedd yn stryd i ni; mae'n aros ar ymylon llafnau iâ y tonnau rhewi-pysgod, a throchaf fy nwylo yn yr eira gan ddwyn allan beth bynnag sydd yno. I mewn â'm llaw i belen wlân wen y gwyliau sy'n canu fel clychau, gwyliau sy'n gorffwys ar ffiniau y môr canu-carolau, ac allan daw Mrs Prothero a'r dynion tân.
Prynhawn Noswyl Nadolig oedd hi, a minnau yng ngardd Mrs Prothero yn aros am gathod, gyda'i mab Jim. Roedd hi'n bwrw eira. Roedd hi bob amser yn bwrw eira adeg y Nadolig. Mae Rhagfyr yn wyn fel Lapland yn fy nghof, er nad oedd ceirw. Ond roedd yno gathod. Yn oer, yn greulon, yn amyneddgar, ein dwylo wedi eu lapio mewn sanau, arhosem a'n peli eira yn barod. Yn esmwyth a hir fel jagiwars, yn fwstashog ddychrynllyd, gan boeri ac ysgyrnygu, deuent yn llechwraidd, droellog dros wynder waliau'r gerddi cefn, a ninnau, yr helwyr llygadog, Jim a minnau, yn drapwyr mewn capiau ffwr a mocasins o Fae Hudson, ger Ffordd y Mwmbwls, yn barod i hyrddio ein peli eira marwol at wyrdd eu llygaid.
Ni ddôi'r cathod call. Roeddem mor llonydd, fel Esgimos, yn saethwyr Arctig yn nistawrwydd meddal eira tragwyddol - tragwyddol ers dydd Mercher - fel na chlywsom ni waedd gyntaf Mrs Prothero o'i higlŵ ar waelod yr ardd. Neu o'i chlywed o gwbl, nid oedd, i ni, ond sŵn herio pell ein gelyn a'n hysglyfaeth, cath y dyn drws nesa. Ond cyn hir cododd y llais. 'Tân!' gwaeddodd Mrs Prothero gan guro'r gong ginio.
Rhedeg i lawr yr ardd, gyda'r peli eiriau yn ein breichiau, tuag at y tŷ, a mwg yn wir yn tywallt o'r ystafell fwyta, a'r gong yn clindarddach, a Mrs Prothero yn darogan difrod fel crïwr Pompeii. Roedd hyn yn well na holl gathod Cymru yn sefyll yn un rhes ar ben y wal. Neidio i mewn i'r tŷ, yn llwythog o beli eira, ac aros wrth ddrws agored yr ystafell fyglyd.
Roedd rhywbeth yn llosgi, reit-i-wala; efallai mai Mr Prothero, a gysgai yno bob amser ar ôl cinio-canol-dydd gyda phapur newydd dros ei wyneb. Ond roedd e'n sefyll ar ganol yr ystafell, yn dweud, 'Nadolig braf!' ac yn taro'r mwg â'i slipar. 'Galwch y frigâd dân,' gwaeddai Mrs Prothero wrth daro'r gong.
'Fyddan nhw ddim yno,' meddai Mr Prothero, 'mae'n Nadolig.'
Doedd dim tân i'w weld, dim ond cymylau o fwg a Mr Prothero yn sefyll yn eu canol, yn ysgwyd ei slipar fel pe bai'n arwain.
'Gwnewch rywbeth,' meddai.
A dyma ni'n taflu ein peli eira i'r mwg - credaf inni fethu Mr Prothero - a rhedeg allan o'r tŷ at y bwth ffonio.
'Gad inni alw'r heddlu hefyd,' meddai Jim.
'A'r ambiwlans.'
'Ac Ernie Jenkins, mae e'n hoffi tanau.'
Ond galw'r frigâd dân a wnaethom, ac yn fuan daeth yr injan dân a thri dyn tal mewn helmau gan gario pibell ddŵr i mewn i'r tŷ ac aeth Mr Prothero allan yn union cyn iddynt ei ddefnyddio. Chafodd neb erioed Noswyl Nadolig mwy swnllyd. A phan orffennodd y dynion tân â'r biben ddŵr a hwythau'n sefyllian yn yr ystafell wlyb, fyglyd, daeth modryb Jim, Miss Prothero, i lawr o'r llofft, a sbecian i mewn arnynt. Arhosodd Jim a fi yn dawel iawn, i glywed beth ddywedai hi wrthynt. Dywedai'r peth iawn, bob amser. Edrychodd ar y tri dyn tân tal yn eu helmau disglair, yn sefyll yng nghanol y mwg a'r marwor a'r peli eira toddedig, ac meddai hi: 'Hoffech chi rywbeth i'w ddarllen?'